Cynhadledd i drafod y Gymraeg yn y gweithle
- Cyhoeddwyd

Bydd dros 100 o gynrychiolwyr o sefydliadau ledled Cymru yn dod ynghyd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener i drafod y ffyrdd gorau o annog pobl i siarad Cymraeg yn y gwaith.
Mae'r gynhadledd wedi'i threfnu gan ganolfan iaith y brifysgol, Canolfan Bedwyr.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws yn bresennol yng nghynhadledd Gwneud i'r Gymraeg weithio.
Galwodd Mr Jones y digwyddiad yn un "amserol", a dywedodd bod cael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn allweddol i'w dysgu.
Mae Cyngor Gwynedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad.
Straeon perthnasol
- 6 Tachwedd 2015
- 1 Tachwedd 2015
- 30 Hydref 2015
- 30 Medi 2015