Davies yn ail-ymuno â'r Scarlets ar gytundeb deuol

  • Cyhoeddwyd
Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru

Bydd canolwr Cymru Jonathan Davies yn ail-ymuno â'r Scarlets o Clermont Auvergne wedi iddo arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Fe fydd yn dychwelyd i'r Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Mae Davies wedi ennill 48 o gapiau rhyngwladol, ond nid oedd yn y garfan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd oherwydd anaf i'w ben-glin.

Ar ôl chwarae i dimau ieuenctid y Scarlets, chwaraeodd 119 o gemau dros wyth tymor, gan sgorio 38 o geisiau i'r rhanbarth.

Y canolwr 27 oed yw'r 17eg chwaraewr i arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips: "Mae hyn yn dangos gwerth cytundebau deuol fel ffordd o sicrhau bod cymaint o chwaraewyr talentog a phosib yn chwarae eu rygbi yma yng Nghymru."