Triniaeth i bedoffiliaid: 'Angen mwy o nawdd'
- Cyhoeddwyd

Mae mudiad o dde Cymru sy'n ceisio lleihau achosion o gamdriniaeth rhyw o blant, gan ddarparu triniaeth i bedoffiliaid wedi dweud eu bod angen mwy o nawdd i barhau gyda'u gwaith.
Fe wnaeth Juliet Grayson sefydlu StopSO yn 2012 gyda chymorth grant gan Heddlu Gwent a swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae'n gweithio fel asiantaeth i hyfforddi therapyddion preifat trwy'r DU i weithio gyda phedoffiliaid sydd heb droseddu yn ogystal â throseddwyr rhyw.
Dywedodd Ms Grayson: "Yr hyn dy'n ni wir eisiau ei wneud ydi nid yn unig stopio'r ail drosedd, ond stopio'r drosedd gyntaf."
Mae eu gwaith wedi cael ei gefnogi gan Paul Jones, tad April Jones, y ferch ysgol o Fachynlleth a gafodd ei lladd gan y pedoffil, Mark Bridger.
"Mae'n llygedyn o obaith yn y dyfodol," meddai wrth Eye on Wales.
"Maen nhw'n ceisio cynnig help i bedoffiliaid cyn iddyn nhw droi yn droseddwyr - dyma'r ffordd ymlaen. Atal y drosedd yw'r allwedd."
'Teimlo'n ofnadwy'
Mae Chris (dim ei enw go iawn) yn disgrifio ei hun fel pedoffeil. Dydi o erioed wedi troseddu yn erbyn plentyn, ac mae'n dweud nag ydi o eisiau, ond dywedodd bod ei rywioldeb yn dechrau effeithio ar ei fywyd pob dydd.
"Roeddwn i'n beio fy hun ac fe wnes i ddarganfod fy hun mewn sefyllfa ble roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy," meddai.
"Roedd 'na gyfnod pan oeddwn i eisiau lladd fy hun."
Fe wnaeth Chris ddarganfod StopSO, ac yn fuan, roedd mewn cysylltiad â therapydd.
Cwblhaodd gwrs o therapi'r ymennydd i newid ymddygiad, ac mae'n dweud bod hynny wedi newid ei fywyd.
120 o gleientiaid
Ers agor ei ddrysau, mae StopSO wedi cynnig therapi i 120 o gleientiaid ar draws y DU - gyda 18 o'r rheiny yng Nghymru.
Yng Ngwent - ble mae mwy o therapyddion ac ymwybyddiaeth o waith StopSO oherwydd y nawdd gan heddlu'r ardal - mae 60% o'r rheiny sy'n cysylltu â'r mudiad yn gwneud hynny heb gael unrhyw gyswllt gyda'r awdurdodau.
Ond i gadw gwaith StopSO i ffynnu, mae Ms Grayson yn dweud eu bod angen mwy o nawdd.
"Os gawn ni hynny, rwy'n meddwl y gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chwyldroi'r ffordd dy'n ni'n meddwl am hyn," meddai.
Y broblem i'r mudiad yw sut i brofi bod y cynllun yn gweithio. Mae Ms Grayson yn y broses o sefydlu ffordd o fonitro'r rhai sydd wedi cael help fel tystiolaeth.
Dywedodd Heddlu Gwent a swyddfa'r Comisiynydd heddlu a Throsedd ei fod angen gweld tystiolaeth cyn rhoi mwy o nawdd i StopSO.
Eye on Wales, BBC Radio Wales. 12:30 dydd Sul, 15 Tachwedd.