Hynt a helynt portread Dic Aberdaron
- Published
Fe deithiodd Dic Aberdaron tipyn yn ei ddydd, ond prin y byddai'n disgwyl i bortread ohono ddod i'r fei mewn cwpwrdd ym Machynlleth.
Daeth un o ymddiriedolwyr Canolfan Owain Glyndŵr o hyd i lun gwerthfawr o'r crwydryn o Lŷn wrth wneud lle i gadw llestri cylch Merched y Wawr y dre'.
Mae'r llun olew gan William Roos tua 200 mlynedd oed, ac yn dangos Dic Aberdaron gyda llyfr o dan ei gesail a het ar ei ben.
Bydd y portread yn mynd i ocsiwn y penwythnos yma, ble mae gobaith iddo gael ei werthu am tua £800.
'Tipyn o werth'
Mae'n debyg bod y llun wedi'i gyflwyno i'r ganolfan gan wraig o'r enw Ms Foulkes-Jones fel rhan o'r agoriad swyddogol yn 1912.
Roedd Ms Foulkes-Jones yn byw mewn hen reithordy o'r enw Bodlondeb ar sgwâr Machynlleth, ac ymysg 300 o wahoddedigion ar achlysur ail-agor y safle fel canolfan gymunedol.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli'r ganolfan, eu bod nhw'n ffodus bod y person ddaeth ar draws y llun yn deall y byd celf.
"Mae John Price, ddaeth o hyd i'r llun, yn artist ei hun, ac wrth gwrs roedd e'n sylweddoli bod tipyn o werth i'r llun 'ma," meddai.
"Fe aeth â fe i'r Llyfrgell Genedlaethol, fe wnaethon nhw ei brisio fo, a gwirio ei fod yn llun gwreiddiol gan William Roos."
Roedd Mr Roos o Amlwch ar Ynys Môn, ac yn adnabyddus am beintio enwogion ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dic yn mynd adra?
Gofalodd y pwyllgor rheoli bod y llun yn cael ei adfer a'i lanhau gan arbenigwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond gan fod llun tebyg gan yr un artist yng nghasgliad y llyfrgell, doedd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn prynu'r portread.
Felly mae'r ganolfan yn ei werthu yn arwerthiant Gymreig Rogers Jones ym Mae Colwyn y penwythnos yma.
"Fe benderfynwyd, gan fod y ganolfan yma yn lle agored i bobl grwydro i mewn ac allan yn ystod y dydd, ni fyddai'n le priodol i'w arddangos," meddai Mr Jones.
"Y teimlad oedd y byddai'n well ceisio cael ei werth a'i fuddsoddi mewn gwasanaethau eraill yn y ganolfan."
Ac felly, wedi blynyddoedd mewn cwpwrdd yn hen senedd-dy Machynlleth, bydd Dic Aberdaron ar daith unwaith eto - ac mae Canolfan Glyndŵr yn gobeithio y ceith Dic ddychwelyd, o'r diwedd, i'w gartref.
"Mi fyddai'n braf iawn petai'r llun yn mynd nôl i gynefin Dic Aberdaron ym Mhen Llŷn," meddai Mr Jones.