Kirsty Williams: 'Mae'n amser am newid'
- Cyhoeddwyd

Dylai Cymru wrthod Llywodraeth Lafur sy'n gwrando ar "fuddiannau breintiedig" yn unig, yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
Wrth annerch ymgyrchwyr yn Abertawe, dywedodd Ms Williams bod ei phlaid yn cryfhau wedi "trafferthion" bod mewn clymblaid gyda'r Ceidwadwyr yn San Steffan.
Fe wnaeth hi'n dadlau bod pum aelod y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mae Caerdydd yn gwneud gwahaniaeth.
"Yn yr etholiad hwn, rwy eisiau i bawb wybod mai'n plaid ni sy'n rhoi pobl yn gyntaf," meddai. "Ni sydd ar ochr disgyblion, rhieni a chleifion.
"Dy'n ni wedi cael blynyddoedd o'r un Llywodraeth Lafur yn gwrando ar fuddiannau breintiedig, ond yn anwybyddu'r bobl maen nhw i fod i'w cefnogi. Mae'n amser am newid."
'Barod i wrando'
Ar ôl bod mewn clymblaid gyda'r Torïaid ers 2010, fe gollodd y Democratiaid Rhyddfrydol y rhan fwyaf o'u seddi yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.
Bellach, wyth aelod seneddol yn unig sydd ganddyn nhw, a dim ond un yng Nghymru.
Dywedodd: "Roedd hi'n anodd ymgyrchu yn ystod y glymblaid, ond nawr mae pobl yn barod i wrando unwaith eto.
"Dy'n ni'n tyfu. Dy'n ni'n unedig. Ac mae nawr angen Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fwy nag erioed."
Mae arolygon barn yn awgrymu y bydd etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf yn anodd i'r blaid, ond fe wnaeth Ms Williams ddadlau bod y polau wedi bod yn anghywir yn y gorffennol, "ac y bydden nhw'n anghywir eto".