Dynes o Bontardawe'n osgoi carchar am drywanu ei mam
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o Bontardawe wnaeth drywanu ei mam yn ei phen wedi osgoi carchar.
Ymosododd Rhian Robinson, 32 oed, o Bontardawe, ar ei mam gyda chyllell 12 modfedd.
Gadawyd ei mam, Cheryl Robinson, 63 oed, gyda nifer o anafiadau i ran uchaf ei chorff.
Ond dywedodd cofiadur y llys, Eleri Rees, "na fyddai'r ymosodiad wedi digwydd pe na bai'r amddiffynydd yn dioddef o salwch meddwl."
'Byw bywyd eto'
Ymosododd Ms Robinson ar ei mam gyda chyllell 12 modfedd wedi iddi glywed lleisiau ar 14 Ebrill eleni.
Cafodd Cheryl Robinson ei chludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr gydag "anafiadau difrifol a allai beryglu ei bywyd".
Ond fe oroesodd a clywodd y llys ei bod "eisiau byw bywyd unwaith eto" a'i bod "yn caru ei merch yn fawr iawn."
Ar ôl cael ei harestio, cafodd Rhian Robinson ei rhoi yng ngofal Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Gosododd Ms Rees orchymyn i'w chadw yn yr ysbyty wedi i seiciatrydd ddweud ei bod yn dod yn ei blaen yn dda yno.
Dywedodd Dr Shuja Reagu: "Mae ei seicosis a'i sgitsoffrenia wedi ymateb yn dda i driniaeth ond mae hi dal yn y broses o wella a heb wella'n llwyr."