Llywodraeth Cymru yn penodi 'gweision ufudd' Llafur
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei beirniadu am benodi pedair gwaith yn fwy o unigolion sy'n gysylltiedig â Llafur i gyrff cyhoeddus nag o unrhyw blaid arall.
Mae Plaid Cymru yn ei chyhuddo o benodi "gweision ufudd" i swyddi allweddol.
Ond mae'r llywodraeth wedi disgrifio'r honiad fel "nonsens llwyr", gan ddweud mai ar sail teilyngdod mae penodiadau cyhoeddus yn cael eu gwneud.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru Fyw drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae 2,247 o unigolion wedi eu penodi i gyrff cyhoeddus ers datganoli yn 1999.
Dywedodd 195 o ymgeiswyr llwyddiannus eu bod yn gysylltiedig â'r blaid Lafur, llai na 10% o'r cyfanswm.
Ond 45 o benodiadau sydd wedi eu gwneud i unigolion sydd â chysylltiad â'r blaid nesaf, Plaid Cymru.
Roedd 31 yn gysylltiedig â'r Democratiaid Rhyddfrydol a 22 â'r Ceidwadwyr.
'Person mewnol Llafur'
Fe gafodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ei disgrifio fel "person mewnol Llafur" yn dilyn ei phenodiad ddechrau'r mis.
Dywedodd Plaid Cymru nad yw'n syndod i "unrhyw un" bod mwy o aelodau o'r blaid Lafur wedi eu penodi i swyddi cyhoeddus nag aelodau o bleidiau eraill.
"Mae'r Llywodraeth Lafur wedi datblygu enw am apwyntio gweision ufudd i swyddi allweddol, ac mae'r ffigyrau yn cefnogi'r canfyddiad hwn," meddai Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn nonsens llwyr.
"Fel mae'r ffigyrau yn dangos yn glir, dyw dros 90% o unigolion sydd wedi eu penodi i gyrff cyhoeddus ers 1999 heb ddatgan eu bod yn gysylltiedig â'r blaid Lafur.
"Mae penodiadau cyhoeddus yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod - nid cysylltiad gwleidyddol."