Ail-frandio cynghrair Lloegr yn 'sarhad' i glybiau Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r penderfyniad i ail-frandio'r Gynghrair Bêl-droed yn Gynghrair Bêl-droed Lloegr y tymor nesaf yn "sarhad" i glybiau Cymru, meddai Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd.
Dywedodd y cadeirydd Tim Hartley bod y newid yn "ffeithiol anghywir" ac yn "hollol ddiangen".
Cyhoeddodd y corff llywodraethol ddydd Iau y bydd y newid yn dod i rym erbyn dechrau tymor 2016-17.
Mae dau glwb o'r 72 yn y Gynghrair Bêl-droed yn dod o Gymru - Caerdydd a Chasnewydd.
'Beth ydi'r pwynt?'
Go brin y bydd clybiau'r tair adran yn elwa o'r ail-frandio, yn ôl Mr Hartley.
"Mae e bach yn sarhaus bod dau glwb o Gymru, ac mae potensial bod llawer mwy sy'n is lawr y pyramid yn mynd i gael eu categoreiddio fel rhai Saesnig," meddai.
"Mae'r ail-frandio yn ffeithiol anghywir ac yn hollol ddiangen. Mae Casnewydd a Chaerdydd yn y Gynghrair Bêl Droed.
"Fe fydd y cwmnïau yn gwneud llawer o arian drwy'r ail-frandio gan wneud logos ac ar bapur, ond ni wnaiff dim i dimau sy'n chwarae yn y tair adran. Beth ydi'r pwynt?
"Roedd y gan y Gynghrair Bêl-droed statws, roeddem yn gwybod beth oedd hynny'n golygu, pam ymyrryd gyda brand sy'n gweithio?"
Dyw Caerdydd na Chasnewydd heb wneud sylw cyhoeddus ar y penderfyniad.
Daeth y newid yn dilyn ymchwil eang, gan gynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda chlybiau, rhanddeiliaid, partneriaid masnachol a mwy na 18,000 o gefnogwyr pêl-droed.
Mae Mr Hartley wedi cysylltu â Chaerdydd gan ofyn a oeddwn wedi eu cynnwys yn y penderfyniad.