Cwest milwr: Cwyno am 'boen yn ei fol'
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth milwr fu farw o effeithiau gor-boethi ar ôl derbyn cosb gorfforol answyddogol wedi clywed ei fod wedi "cwyno am boen yn ei fol" a bod ei ddwylo'n "crynu" yn ystod y gosb.
Bu farw'r Preifat Gavin Williams, 22 oed, o Hengoed, ar ôl cael ei orfodi i wneud ymarfer corff dwys fel cosb yn dilyn sawl digwyddiad wedi iddo fod yn feddw.
Fe aeth y milwr yn wael cyn marw ar 3 Gorffennaf 2006 ym marics Lucknow, Wiltshire ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Gwres
Roedd gwres ei gorff yn 41.7C pan aed ag ef i'r ysbyty, o'i gymharu â'r norm o 37C. Fe wnaeth profion ysbyty ddangos fod olion ecstasi yn ei gorff pan fu farw.
Yn 2008 cafwyd y tri swyddog wnaeth ei gosbi - Sarjant Russell Price, 45 oed, Sarjant Paul Blake, 37 oed, a Corporal John Edwards, 42 oed - yn ddieuog o ddynladdiad.
Mewn datganiad i'r cwest yng Nghaersallog (Salisbury), dywedodd yr hyfforddwr ymarfer corff Is-Gorpral Gregory Thomas, oedd gyda chyfrifoldeb am redeg campfa yn y gwersyll, fod Preifat Williams wedi cael ei hebrwng gan Sarjant Price i'r gampfa pan ofynodd i Sarjant Blake os byddai modd iddyn nhw ei gael "am gyfnod".
Dywedodd: "Gofynnodd Sarjant Blake beth yr oedd (Williams) wedi ei wneud ac fe ddywedwyd ei fod wedi gadael heb ganiatad ac wedi tanio diffoddwr tân at swyddogion.
"Dywedodd y llanc nad oedd yn gallu cofio, ei fod yn feddw, ond ei fod mewn trafferth."
Poen bol
Ychwanegodd Is-Gorpral Thomas fod Preifat Williams wedi cwyno am boen yn ei fol ac nid oedd yn gallu cwblhau ymarferiad yr oedd wedi cael gorchymyn i'w wneud.
Dywedodd fod Sarjant Blake wedi dweud wrtho am ddyrnu bag ac ymarferiad arall gwahanol fel nad oedd yn rhaid iddo "blygu ei stumog", ond fe wnaeth y milwr barhau i gwyno am y boen yn ei fol.
Esboniodd: "Dywedodd Sarjant Blake wrtho i nôl gwydriad o ddŵr a chael trefn ar ei hun."
Dywedodd nad oedd yn sylwi ar unrhyw symptomau o ddiffyg dŵr ar y milwr ond fod ei law yn crynu ac fe gollodd y dŵr.
"O achos hyn dywedodd Blake y byddai'n mynd ag o i'r ganolfan feddygol."
Roedd yn rhaid i'r milwr gario bag oedd yn pwyso 5kg i'r ganolfan feddygol rhag iddo allu "rhedeg i ffwrdd yn hawdd" gan ei fod wedi gadael y gwersyll heb ganiatad ar achlysur blaenorol.
Cuddio
Dywedodd yr Is-Gorpral Craig Silcox, sydd nawr yn y fyddin wrth gefn ar ôl gadael y fyddin llawn amser yn 2013, ei fod wedi mynd i ddarganfod Preifat Williams y bore hwnnw ac ei fod wedi dod o hyd iddo yn cuddio yn yr ystafell gawod.
Ychwanegodd fod yr ystafell yn dywyll gyda photeli cwrw wedi eu hagor, a disgrifiodd y milwr fel dyn oedd "yn ysgwyd, ac yn edrych fel ei fod yn dioddef effeithiau alcohol."
Mae'r cwest yn parhau.