Siom i Gymro ar ddiwrnod cyntaf rali
- Cyhoeddwyd

Fe ddioddefodd y gyrrwr rali o Gymru Elfyn Evans ergyd i'w obeithion o gyrraedd safle ar y podiwm yn Rali Cymru GB ddydd Gwener.
Ar ddiwedd y dydd roedd Evans yn y pumed safle ar ôl dioddef twll yn nheiar ei gar yn gynharach. Roedd wedi gobeithio sicrhau lle yn y tri uchaf ond roedd yn y nawfed safle ar un adeg wedi dioddef effaith y twll yn ei deiar ar gymal Hafren o'r ras.
Mae Evans yn y seithfed safle yn y bencampwriaeth ond mae ei ddyfodol yn nhîm M-Sport yn aneglur gyda'i gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn.
Pencampwr newydd ralio'r byd Sebastien Ogier sydd ar y blaen yn Rali Cymru GB, ond mae Kris Meeke o Ogledd Iwerddon yn agos ar ei ôl gyda 13 eiliad yn unig yn gwahanu'r ddau.
Bydd wyth cymal yn ystod y rali ddydd Sadwrn, gyda diwrnod dau yn dechrau ychydig cyn 07:30 yng Ngartheiniog.