Carcharu dyn am geisio denu plant ar y wê
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd arweinydd cybiau sgowt, ddefnyddiodd y wê i gysylltu â merched ifanc ei ddal gan heddwas o Heddlu'r De oedd yn smalio bod fod yn ferch 12 oed.
Roedd Scott Nicholls, 41 oed o Taunton, wedi pledio'n euog i geisio cwrdd â merched i bwrpas rhywiol.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, fe gafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd dan glo, yn ogystal ag ymestyniad o bedair blynedd.
Yn ôl y barnwr, Eleri Rees, mae 'na risg y gallai Nicholls "achosi niwed difrifol i blant".
Fe blediodd Nicholls yn euog i'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn:
- Chwe achos o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant
- Tri achos o ddosbarthu delweddau anweddus o blant
- Pedwar achos o geisio denu merch dan 16 oed
- Tri achos o geisio denu merch dan 13 oed
- Dau achos o achosi i blentyn wylio gweithred rywiol
- Un achos o geisio cyfarfod plentyn wedi cysylltu â nhw i geisio eu denu