Llofruddiaeth Llanelli: Arestio pumed person

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae'r heddlu wedi arestio pumed person mewn cysylltiad ag ymchwiliad i lofruddiaeth yn Felinfoel, Llanelli.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys bod dyn wedi'i arestio nos Wener.

Mae swyddogion yn ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl i gorff dyn maen nhw'n credu oedd yn dod o Wlad Pwyl gael ei ddarganfod ar 11 Tachwedd yn ardal Pleasant View yn y dre'.

Roedd tri dyn a dynes wedi'u harestio eisoes, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.