Cyhoeddi enw dynes fu farw ar ôl gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Corporation yng Nghasnewydd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yng Nghasnewydd ddydd Gwener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Corporation ger y gyffordd â Ffordd Lysaght am tua 19:30, a'r ddynes fu farw oedd Suzanne Stribling, 45 oed, o Lyswyry, Casnewydd.
Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau difrifol ond bu farw yn ddiweddarach.
Mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu ar 101.