Cwpan Pencampwyr Ewrop: Northampton 15-11 Scarlets

Ken Pisi Image copyright Getty Images
Image caption Ken Pisi yn croesi i roi Northampton ar y blaen

Roedd rhaid i'r Scarlets setlo am bwynt bonws yn unig wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Northampton yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen o gais Ken Pisi, cyn i'r Scarlets ymateb gyda dwy gic gosb gan Steve Shingler cyn hanner amser.

Fe wnaeth y maswr Gareth Davies groesi'r gwyngalch ar ôl yr egwyl i roi'r fantais i'r ymwelwyr.

Ond fe sgoriodd Alex Waller gais ac ychwanegodd JJ Hanrahan gic gosb i sicrhau'r fuddugoliaeth i Northampton - oedd wedi gorfod chwarae 20 munud gyda 14 o chwaraewyr.