Ymchwiliad Llanelli: Cyhuddo dau ddyn o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn 45 ac 20 oed wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad ag ymchwiliad yn Felinfoel, Llanelli.
Fe gafodd gorff dyn maen nhw'n credu oedd yn dod o Wlad Pwyl gael ei ddarganfod ar 11 Tachwedd yn ardal Pleasant View yn y dre'.
Mae dau ddyn arall, 43 a 26 oed, a dynes 17 oed wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Bydd y pump sydd wedi'u cyhuddo yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun.