Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gweilch 25-13 Caerwysg

  • Cyhoeddwyd
Dan BiggarFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth cais hwyr Josh Matavesi sicrhau bod y Gweilch yn dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerwysg.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen o 10-6 ar hanner amser yn Stadiwm Liberty yn dilyn cais James Short a chicio Gareth Steenson.

Fe wnaeth Dan Biggar fethu mwy o giciau na lwyddodd i drosi yn yr hanner cyntaf, ond roedd yn berfformiad llawer gwell ganddo yn yr ail hanner.

Er hyn, roedd Caerwysg o fewn sgôr i'r Gweilch trwy gydol yr ail hanner nes i ryngipiad Matavesi sicrhau'r fuddugoliaeth.