Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 30-12 Sale
- Cyhoeddwyd

Y capten Rynard Landman yn dathlu ei gais gydag Ashton Hewitt
Fe wnaeth y Dreigiau ennill eu gêm agoriadol yng Nghwpan Her Ewrop gyda phwynt bonws wrth iddyn nhw drechu Sale yn Rodney Parade.
Roedd y tîm cartref ar y blaen o 17-0 erbyn hanner amser ar ôl ceisiau Ollie Griffiths, Rynard Landman ag Adam Hughes.
Fe ddaeth Sale yn ôl wrth i James Mitchell a Jonathan Mills groesi'n gynnar yn yr ail hanner.
Ond fe wnaeth ddwy gic gosb Dorian Jones roi'r Dreigiau yn ôl mewn rheolaeth, cyn i gais Matthew Screech sicrhau pwynt bonws.