Pum cerbyd wedi'u dinistrio mewn tân yn Nhorfaen
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi'i lansio ar ôl i bum cerbyd gael eu dinistrio gan fflamau yn Nhorfaen yn oriau man bore Sul.
Fe gafodd ddau gar arall a charafan eu difrodi yn y digwyddiad y tu allan i siop ar Heol Caerllion ym Mhont-hir.
Cafodd ddiffoddwyr o Gwmbrân a Chasnewydd eu gyrru i'r digwyddiad am 00:25.
Dywedodd y gwasanaethau brys ei bod wedi cymryd bron i awr i ddiffodd y tân.