Ymosodiad â chyllell: Arestio dyn ar amheuaeth o glwyfo

Heddlu

Mae dyn 32 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o glwyfo yn dilyn ymosodiad gyda chyllell y tu allan i fwyty ym Mae Caerdydd.

Fe wnaeth dyn 25 oed ddioddef anafiadau i'w arddwrn yn y digwyddiad ym maes parcio bwyty Miller and Carter ar Heol Hemingway ychydig cyn 19:00 nos Sadwrn.

Dydi hi ddim yn ymddangos bod ei anafiadau yn rhai difrifol, ond fe gafodd ei gymryd gan yr heddlu i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Cafodd gar oedd wedi'i ddwyn ei adael gerllaw ar ôl bod mewn gwrthdrawiad.