Canfod corff ar fynydd Tryfan
- Cyhoeddwyd

Gallai dyn fu farw ar Tryfan dros y penwythnos fod wedi syrthio hyd at 100 troedfedd, yn ôl tîm achub.
Cafwyd hyd i gorff y cerddwr oedrannus o dde-orllewin Lloegr gan ddau ddyn ddydd Sul.
Dywedodd aelodau tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen y gallai'r dyn fod wedi syrthio ddydd Gwener wedi iddo fynd ar goll.
Chafodd neb hyd i'w gorff am ddeuddydd oherwydd y tywydd garw, yn ôl y tîm.