Llifogydd yn amharu ar wasanaeth trenau
- Cyhoeddwyd

Mae'r oedi'n parhau ar wasanaethau trên yng nghanolbarth a gogledd Cymru oherwydd y tywydd garw.
Fe ddywedodd Trenau Arriva Cymru fod trenau rhwng Aberystwyth ac Amwythig wedi eu canslo oherwydd lefel yr afon ym Machynlleth.
Oherwydd cyfyngderau cyflymder ar y rheilffordd, mae 'na oedi ar rai trenau rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog.
Straeon perthnasol
- 16 Tachwedd 2015
- 15 Tachwedd 2015