Gareth Vincent Hall: 'Newid plê'
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i ddyn o Wynedd ymddangos yn y llys yn UDA fis nesa' ar gyfer gwrandawiad "newid plê" wedi iddo gael ei gyhuddo o dreisio a herwgipio merch 10 oed.
Mae disgwyl i Gareth Vincent Hall, 22 oed o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle, bledio'n euog i rai cyhuddiadau ar 3 Rhagfyr.
Roedd gan yr achubwr bywyd - arferai weithio i Gyngor Gwynedd - wrandawiad yfory, gydag achos llys ar y gweill ym mis Ionawr.
Fodd bynnag, mae erlynwyr yn UDA nawr yn dweud y bydd gwrandawiad arbennig i nodi newid plê ar 3 Rhagfyr, a gwrandawiad dedfrydu i ddilyn ar 22 Rhagfyr.
Ymchwiliad arall
Roedd y diffynnydd yn arfer gweithio yng Nghanolfan Hamdden Arfon yng Nghaernarfon.
Fe gafodd ei wahardd o'i waith gan y cyngor ym mis Hydref 2014 wedi ymchwiliad arall gan Heddlu Gogledd Cymru.
Yn ystod yr haf, fe gadarnhaodd y cyngor nad oedd o'n gweithio i'r awdurdod mwyach.
Ddechrau'n flwyddyn, fe ddywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod dyn 22 oed o Dalysarn wedi ei arestio "dan amheuaeth o droseddau ar-lein", a'i ryddhau ar fechnïaeth. Ddydd Llun, cadarnhaodd y llu fod yr ymchwiliad hwnnw yn parhau.
Yn ôl heddlu yn UDA, fe deithiodd Mr Hall i Oregon ym mis Ebrill.
Yna, medd swyddogion, fe ddaeth yn ôl i Gymru, a chafodd ei arestio wrth geisio dychwelyd i UDA ar 2 Mai ym maes awyr O'Hare yn Chicago.
Cyfieithydd Cymraeg
Yn y fan honno, cafodd ei gyhuddo o dreisio, herwgipio a throseddau rhyw difrifol eraill.
Pan ymddangosodd yn y llys yn Eugene ym mis Mehefin, fe ddywedodd papur newydd lleol fod cyfieithydd Cymraeg yn bresennol i roi cymorth i Mr Hall ddeall y broses.
Mae pris o $1.5m (£956,000) ar ei fechnïaeth yn UDA.
Roedd disgwyl achos llawn yn ei erbyn wedi iddo gael ei gyhuddo gan uchel reithgor.