Gweddillion dynol mewn coedwig ger Cerrigydrudion
- Published
image copyrightGoogle
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio wedi i weddillion dynol gael eu darganfod mewn coedwig ger Cerrigydrudion.
Cafodd swyddogion eu galw gan aelod o'r cyhoedd oedd wedi darganfod y gweddillion am 20:34 ddydd Sadwrn Tachwedd 14.
Mae'r gweddillion wedi eu symud o'r lleoliad ac fe fydd patholegydd yn cynnal archwiliad. Mae ymchwiliad ar droed i ddarganfod ers faint o amser mae'r gweddillion wedi bod yn y lleoliad.
Nid oes mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.