Pryder am gynllun trydan dŵr Afon Conwy
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o fudiadau cadwriaethol, pysgotwyr a chaiacwyr wedi uno i wrthwynebu cynllun trydan dŵr ar Afon Conwy ger Betws y Coed.
Cwmni ynni RWE sydd tu ôl i'r cynllun fyddai'n gallu cynhyrchu digon o drydan i wasanaethu dros 3,000 o gartrefi. Mae'r cwmni yn cydnabod fod pryder ymysg rhai am y cynllun ond yn dadlau y bydd eu cynlluniau o fantais i'r amgylchedd yn lleol.
Pryder y gwrthwynebwyr ydi y byddai'r cynllun yn hagru ardal arbennig o ran ei natur a'i phrydferthwch, sef Ffos Nuddun neu 'Fairy Glen' yn Saesneg.
Pryderon
Dywedodd John Harold, cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore dydd Mawrth: "Mae llifeiriant llawn yn dod ag yn mynd yn gyflym iawn ar yr afon yma.
"Ein prif bryderon ydi'r effeithiau ar yr afon ei hun - ar ddau gilometr lle maen nhw'n mynd i dynnu dŵr yr afon - fe fyddai bron i hanner y dŵr yn mynd i gael ei dynnu allan o'r afon, ac fe fyddai effaith ar natur, ar gaiacwyr, pysgotwyr ac yn y blaen.
"Maen nhw'n mynd i adeiladu argae a blastio twnnel trwy gerrig am bron i gilometr, a wedyn palu twll ar gyfer y beipen i lawr am gilometr arall i lawr i'r Fairy Glen Hotel, ac fe wnawn nhw wneud llanast llwyr."
Ychwanegodd Mr Harold: "Os 'dach chi'n tynnu digon o ddŵr mae'n mynd i gael effaith sylweddol ar fywyd gwyllt ac ar y ffordd 'dan ni'n gallu mwynhau defnyddio'r afon ei hun. 'Dan ni'n son am safle o bwysigrwydd cenedlaethol.
"Prin iawn ydi'r afonydd o safon Afon Conwy fel mae hi yma. 'Dan ni ddim yn credu fod o werth y risg."
'Atebion'
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni RWE eu bod nhw'n derbyn fod rhai pobl yn poeni am y cynllun ond eu bod yn cynnig atebion i'w pryderon fydd yn golygu y bydd yr amgylchedd lleol ar ei hennill.
Yn ôl y cwmni, bydd y cynllun trydan dŵr yn cyfrannu tuag at y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Dywedon nhw hefyd y bydden nhw'n gwneud eu gorau i sicrhau y bydd y gymuned leol yn elwa yn ariannol ac y bydd digon o ynni carbon isel yn cael ei gynhyrchu i gyflenwi rhan uchaf dyffryn Conwy.
Y disgwyl ydi y bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ganol Ionawr.