Cwest milwr: 'Celwydd' cyd-weithwyr
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-gorporal yn y fyddin wedi dweud fod cyn gyd-weithwyr wedi dweud celwydd am ddefnyddio cosbau corfforol answyddogol ar filwyr.
Dywedodd John Edwards wrth gwest i farwolaeth Gavin Williams, 22 o Hengoed, Sir Caerffili, nad oedd yn ymwybodol bod rheolau disgyblu wedi newid pan roedd yn rhan o broses disgyblu answyddogol y milwr ifanc, sy'n cael ei ddisgrifio fel 'beasting'.
Fe wnaeth Preifat Williams farw ar ôl i'w galon fethu ar 3 Gorffennaf 2006 ym marics Lucknow, Wiltshire.
Roedd yr aelod o'r Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol, wedi ei orfodi i wneud ymarfer corff dwys fel cosb am gamymddwyn.
Cosbi
Dywedodd Corporal Edwards ei fod wedi cwestiynu'r dull o gosbi Preifat Williams ar y pryd. Dywedodd wrth y cwest yn Salisbury, Wiltshire, ei fod wedi dilyn gorchymyn i wneud i Preifat Williams gerdded nes ei fod yn "chwysu fel ci".
Clywodd y cwest fod rheolau disgyblu newydd wedi dod i rym gan y fyddin yn Ionawr 2005 - oedd yn cael eu hadnabod fel rheolau AGAI 67.
Dywedodd y crwner, Alan Large nad oedd y defnydd o ymarfer corff anodd fel cosb yn dod o dan y rheolau newydd ond dywedodd Corporal Edwards nad oedd yn ymwybodol o hyn ar y pryd.
Gofynnodd i Gorporal Edwards beth oedd yn ei feddwl o honiadau uwch swyddogion yn y fyddin oedd yn dweud nad oedd ymarfer corff anodd yn cael ei ddefnyddio o bryd i'w gilydd fel cosb.
Atebodd ei fod yn credu "fod rhai pobl o fewn yr ardal yna'n dweud celwydd".
Dywedodd Mr Large: "Ydych chi'n gallu cofio un o'r uwch sarjantiaid catrodol hynny yn rhoi gorchymyn uniongyrchol i chi ar ôl Ionawr 2005 i weithredu'r cosbau sydyn answyddogol hyn?"
"Ydw, syr", meddai, ond nid oedd yn gallu cynnig enghraifft benodol.
Dywedodd Corporal Edwards ei fod wedi dilyn gorchmynion i orfodi Preifat Williams i gerdded nes ei fod yn "chwysu fel ci" ond doedd ddim yn bwriadu gwneud hyn yn hir gan ei fod yn ddiwrnod poeth iawn ac "ni fyddai hynny'n deg".
Ar ôl ysgrifennu llythyr yn ymddiheuro am ei ymddygiad meddw, dywedwyd wrth Breifat Williams am wneud rhagor o ymarfer corff gan Sarjant Russell Price.
Dywedodd Corporal Edwards ei fod wedi cwestiynu hyn gan ofyn "ydych chi'n siŵr", ond fe aethpwyd a Preifat Williams i'r gampfa.
Dywedodd nad ei benderfyniad o oedd gorchymyn Preifat Williams i wneud mwy o ymarfer corff.
"Nid bwystfil ydw i", meddai.
Cafwyd Sarjant Paul Blake, Sarjant Russell Price a Chorporal John Edwards yn ddieuog o ddynladdiad mewn achos llys yn 2008.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.