Lynette White: Gwadu ceisio 'dial'

  • Cyhoeddwyd
Lynette White

Mae'r swyddog oedd yn gyfrifol am ymchwilio i honiadau o lygredd gan blismyn yn ymwneud ag achos llofruddiaeth Lynette White yn 1988 wedi gwadu ei fod yno er mwyn "dial".

Daeth yr achos yn erbyn y plismyn i ben yn sydyn yn 2011.

Mae'r wyth, Graham Mouncher, Thomas Page, Richard Powell, John Seaford, Michael Daniels, Peter Greenwood, Paul Jennings a Paul Stephen wedi dwyn achos sifil yn erbyn Heddlu De Cymru am gamweithredu mewn swydd gyhoeddus a charcharu ar gam.

Maen nhw'n honni bod yr heddlu wedi eu hystyried yn euog cyn dechrau'r ymchwiliad.

'Ymchwiliad proffesiynol'

Dywedodd Chris Coutts wrth Llys y Goron Caerdydd ei fod wedi dechrau ymchwilio i'r honiadau ym mis Gorffennaf 2003.

Ond dywedodd Mr Coutts, sydd bellach wedi ymddeol, nad oed yn "benderfynol" o weld achos yn eu herbyn.

Awgrymodd Anthony Metzer QC ar ran yr wyth mai rol Mr Coutts oedd cywiro'r "camweinyddiad cyfiawnder" honedig gan yr wyth.

Ond dywedodd Mr Coutts: "Roeddwn i'n gweld fy rol fel fy mod wedi cael y gwaith yma i gwblhau ymchwiliad proffesiynol - dyna'n union wnes i geisio gwneud.

"Ac i wneud hynny yng nghyd-destun yr holl gefndir ac heb ofn na thuedd."

Dywedodd nad oedd wedi "brysio" i ddod i gasgliad.

'Dim diffyg meddwl yn agored'

Gwadodd hefyd ei fod wedi defnyddio llyfr gan newyddiadurwr oedd yn ymgyrchu yn y maes, Satish Sekar, fel canllaw neu "feibl".

Pan ofynnodd Mr Metzer pam bod Mr Sekar wedi cael gwybod am ddatblygiadau yn yr achos, atebodd Mr Coutts bod ganddo ddiddordeb yn yr achos.

Ychwanegodd mai dyna oedd y sefyllfa pan ddechreuodd y swydd, a'i fod "wedi cael gorchymyn i barhau yn yr un modd".

Gwadodd bod "diffyg meddwl yn agored" o ddechrau'r achos.

Mae'r achos yn parhau.