Paris: Rhybudd yn erbyn gweithredu heb 'gynllun'

  • Cyhoeddwyd
The SeneddFfynhonnell y llun, Aimee Caines

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi rhybuddio yn erbyn ymyrraeth filwrol yn Syria heb "gynllun", yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis ddydd Gwener.

Dywedodd Mr Jones nad oedd yn siŵr os oedd cynllun o'r fath yn bodoli, ond ychwanegodd na fyddai'r sefyllfa yn gwella "tra bod IS mewn bodolaeth."

Mae 'na dridiau swyddogol o alaru wedi dechrau yn Ffrainc i gofio'r 129 o bobl gafodd eu lladd a'r cannoedd gafodd eu hanafu.

Mae'r mudiad sy'n galw eu hunain yn Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi honni mai nhw sy'n gyfrifol.

'Anhrefn'

Yn siarad gyda BBC Cymru, soniodd Mr Jones am y penderfyniad i fynd i ryfel yn Irac yn 2003, gan ddweud bod "anhrefn" wedi bod yno wedi'r rhyfel.

Dywedodd: "Ni fydd y sefyllfa yn gwella tra bod IS mewn bodolaeth, mae hynny'n wir.

"Ond yn fwy na dim, yr hyn wnaeth Irac ddysgu i ni yw bod angen cynllun a dydw i ddim yn siŵr os oes cynllun o'r fath yn bodoli eto."

Disgrifiad o’r llun,
Torf yn cofio yn y Place de la Republique
Disgrifiad o’r llun,
Canhwyllau ger y Place de la Republique

Ychwanegodd bod angen cynllun i sicrhau bod heddwch yn Syria ac Irac yn ogystal â "delio gyda'r terfysgwyr yma."

"Yr hyn welsom ni 10 neu 12 o flynyddoedd yn ôl oedd rhyfel yn Irac ac yna roedd anhrefn.

"Dydyn ni ddim am weld hynny eto."

'Amser edrych eto'

Yn y cyfamser, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, bod angen i Aelodau Seneddol ail-ystyried os dylai Llywodraeth y DU ddechrau ymgyrch filwrol yn Syria wedi'r ymosodiadau ym Mharis.

Dywedodd Mr Crabb mai IS yw'r bygythiad mwyaf i'r gymuned ryngwladol ers Natsïaeth yn y 1930au.

Disgrifiad o’r llun,
Mae gwraig Stephen Crabb yn dod o Ffrainc

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae geiriau o gefnogaeth, a'r negeseuon o undod a galar yr ydyn ni wedi eu gweld yn bwysig ar adegau fel hyn ond nid yw hynny'n ddigon.

"Nid ydych chi'n brwydro terfysgaeth drwy hynny yn unig ac mae angen gweithredu clir ar ran y llywodraeth, gyda phartneriaid rhyngwladol, i drechu IS yn ei gadarnle.

"Ac ydw, dwi'n meddwl ei bod hi'n bryd i edrych eto ar os dylai Llywodraeth y DU fod yn cefnogi gweithredu milwrol yn Syria, yng nghanol lle mae IS yn rheoli gymaint o'r trais a chreulondeb yma."

Cofio

Bu cyfle i gofio'r rhai fu farw yn ymosodiadau Paris mewn munud o dawelwch yng Nghymru am 11:00 fore Llun.

Roedd gwleidyddion yn y Senedd ymysg y rhai i gymryd rhan yn y tawelwch, oedd yn cael ei gynnal ledled Ewrop.

Dros y penwythnos, cafodd sawl gwylnos ei chynnal, ac adeiladau cyhoeddus wedi eu goleuo â lliwiau baner Ffrainc.

Fe ddywedodd Marie Brousseau-Navarro, conswl anrhydeddus Ffrainc yng Nghymru, fod y gefnogaeth yma yn anhygoel.

Yn y cyfamser mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi dweud y bydd angen ail-ystyried y toriadau arfaethedig i'r heddlu os bydd lefel y bygythiad i'r cyhoedd yng Nghymru a gweddill Prydain yn cynyddu.