Storm Barney: Rhybudd am wyntoedd 80mya i Gymru

  • Cyhoeddwyd
LlifogyddFfynhonnell y llun, Mari Williams
Disgrifiad o’r llun,
Llifogydd ger Afon Lliw yn Llanuwchllyn ddydd Sul

Mae disgwyl i wyntoedd o hyd at 80mya daro rhannau o Gymru wrth i Storm Barney daro'r DU yn ystod yr wythnos.

Mae rhybuddion melyn i "fod yn wyliadwrus" mewn grym ar gyfer Cymru a rhannau o dde, canolbarth a dwyrain Lloegr ddydd Mawrth.

Daw'r rhybuddion wedi i law trwm achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru a Lloegr.

Roedd cannoedd o gartrefi heb drydan a rhai ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd ddydd Sul. Cafodd rheilffyrdd yng nghanolbarth y wlad eu heffeithio hefyd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwyntoedd gyrraedd cyflymder o 70mya, ac 80mya mewn ardaloedd arfordirol - yn enwedig Cymru a Sianel Bryste - ddydd Mawrth.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae'r tywydd garw oherwydd cyfres o systemau o wasgedd isel sy'n symud ar draws Cefnfor yr Iwerydd.

Gallwch weld y rhybuddion tywydd diweddaraf ar wefan y Swyddfa Dywydd.