Carwyn Jones yn gwrthod galwadau am ymchwiliad i ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi gwrthod galwadau gan deuluoedd cleifion am ymchwiliad i safonau gofal mewn ysbyty yn ne Cymru.

Wrth siarad â rhaglen Week In Week Out, mae teuluoedd sy'n honni fod eu perthnasau wedi cael eu hesgeuluso wedi galw am ymchwiliad i safonau gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Plediodd dwy nyrs o'r ysbyty yn euog i esgeulustod bwriadol mewn achos y llynedd, tra fod achos yn erbyn dwy nyrs arall wedi dod i ben fis diwethaf.

Yn y Senedd ddydd Mawrth, fe wnaeth arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies, gefnogi galwad y teuluoedd am ymchwiliad.

Ond dywedodd Mr Jones fod adroddiad blaenorol eisioes wedi delio â'r mater, ac nad ydi'r llywodraeth yn bwriadu comisiynu ymchwiliad pellach.

Esgeulustod

Yn 2014 daeth adolygiad gan yr Athro June Andrews o hyd i enghreifftiau o ofal gwael.

Ond mae teuluoedd pedwar o gleifion yr ysbyty yn dweud nad oedd yr adroddiad wedi ystyried eu profiadau nhw, sy'n dyddio o 2010 i 2012. Maen nhw'n poeni fod methiannau cyffredinol yn safonau gofal wedi niweidio eu perthnasau.

Yn y Senedd, dywedodd y prif weinidog: "Rydym wedi cydnabod y problemau yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

"Dyna pam wnaethon ni gomsiynu adroddiad Andrews, a rhoddodd argymhellion oedd rhaid inni weithredu arnyn nhw - maen nhw wedi arwain at archwiliadau mwy trylwyr o ysbytai, yn enwedig archwiliadau heb rhagrhybudd."

Ychwanegodd nad oedd unrhyw dystiolaeth newydd sy'n awgrymu fod casgliadau'r adroddiad yn anghywir.

"Rydym ni'n credu ein bod wedi delio â'r mater," meddai.

Ffugio cofnodion

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd cofnodion Alun Evans, dde, eu ffugio, ac mae ei ferch, Emma Brittain, yn poeni fod safon y gofal yn yr ysbyty wedi ei niweidio

Yn siarad gyda Week In Week Out, dywedodd Emma Brittain ei bod yn poeni am y gofal gafodd ei thad, Alun Evans, wedi iddo gael strôc yn 2012.

Mae'r ddwy nyrs blediodd yn euog y llynedd i esgeulustod bwriadol wedi cyfaddef eu bod wedi ffugio darlleniadau glwcos yn y gwaed wrth drin Mr Evans.

Roedd mewn coma am 20 diwrnod ac nawr mae Ms Brittain yn gofyn oes yna gysylltiad rhwng safon y gofal, y lefelau siwgr yn ei waed a'r cofnodion gafodd eu ffugio.

"Ar ôl darganfod beth wnaeth y nyrsys, ro'n i'n gofyn: wnaeth hynny gyfrannu at ba mor hir oedd e yn y coma?" meddai.

'Dyddiau heb fwyd'

Mae'r teuluoedd yn dweud fod gofal gwael yn yr ysbyty tu hwnt i'r pryderon am ffugio cofnodion, ac maen nhw'n honni fod eu perthnasau wedi treulio dyddiau heb ddŵr na bwyd, ac heb dderbyn moddion.

Roedd mam Karen Phillips, Sonia, ynghlwm â'r achos a chwalodd y mis diwethaf, ond dywedodd fod ganddi bryderon eraill am gofal ei mam.

"Ro'n i'n gallu gweld fy mam yn ei gwely yn diflannu o flaen fy llygaid. Roedd hi'n mynd yn fwy eiddil, roedd hi'n colli pwysau," meddai.

"Dyna pan ro'n i'n dal i ofyn pam doedd dim cofnodion yn cael eu cadw am beth oedd hi'n fwyta ac yn yfed."

Ymddiheuriad

Disgrifiad o’r llun,
Mae Paul Roberts, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn bwriadu ymddiheuro i'r teuluoedd

Dywedodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ei fod am ysgrifennu at y teuluoedd, a'u gwahodd i gyfarfod.

Dywedodd: "Yn y llythyr bydd ymddiheuriad, achos ei bod hi'n amlwg eu bod yn haeddu un."

Ond pan ofynnwyd iddo os gafodd cleifion niwed o achos gofal gwael rhwng 2010 a 2012, dywedodd ei bod hi'n "anodd" ateb y cwestiwn.

Dywedodd: "Rydym wedi ymchwilio i gwynion unigol, ac mae un neu ddau achos wedi dod drwy'r ombwdsman, ac mewn rhai achosion maen nhw wedi dod i'r casgliad fod niwed wedi cael ei wneud.

"Mewn achosion eraill, maen nhw wedi casglu fod gofal gwael ond dim niwed uniongyrchol.

"Byddai'n rhaid ail-edrych ar yr achosion unigol i ymchwilio i hynny."

Mae Week In Week Out ar BBC One Cymru, nos Fawrth 17 Tachwedd am 22:35.