Dewis atal 'hawl i brynu' tai cyngor yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo cynllun i atal hawl tenantiaid i brynu tai cyngor mewn cyfarfod ddydd Mawrth.
Mae'r cyngor yn dadlau bod angen newid i'r drefn oherwydd diffyg tai fforddiadwy yn yr ardal.
Nawr bydd y cyngor yn ymgynghori â thenantiaid, a bydd cais yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i gael gwared â'r polisi yn y sir.
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Sir Gaerfyrddin eisioes wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru i atal y polisi.
Hawl i Brynu oedd un o bolisïau enwocaf llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher ac mae dros 134,000 o dai wedi cael eu gwerthu i denantiaid yng Nghymru ers 1980.
Ond mae Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton, yn dweud fod y polisi bellach yn cyfyngu ar allu'r awdurdod i ddarparu tai cymdeithasol.
Mae Llafur Cymru yn addo dod â'r polisi i ben yn y wlad os ydyn nhw'n ennill etholiad y Cynulliad yn 2016.