Tywydd garw: Rhybuddion llifogydd
- Published
Wedi rhagolygon am ragor o dywydd garw ledled Cymru ar gyfer dydd Mawrth, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi un rhybudd llifogydd coch a phump rhybudd ychwanegol yng ngogledd a chanolbarth Chymru.
Ger Bangor-is-y-Coed, mae rhybudd coch - sy'n golygu fod disgwyl llifogydd, a bod angen gweithredu ar frys - mewn grym ers tua 21:00 nos Lun.
Yn ogystal, mae 'na rybuddion ychwanegol - yn rhybuddio pobl i baratoi am lifogydd - mewn grym rhwng Llangollen a Llanuwchllyn, ger Wrecsam ac yn nalgylch Afon Dyfi yng ngogledd Powys.
Storm Barney
Mae disgwyl i wyntoedd o hyd at 80mya daro rhannau o Gymru wrth i Storm Barney daro'r DU yn ystod yr wythnos.
Mae rhybuddion melyn i "fod yn wyliadwrus" am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer Cymru a rhannau o dde, canolbarth a dwyrain Lloegr ddydd Mawrth.
Daw'r rhybuddion wedi i law trwm achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru a Lloegr.
Roedd cannoedd o gartrefi heb drydan a rhai ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd ddydd Sul. Cafodd rheilffyrdd yng nghanolbarth y wlad eu heffeithio hefyd.
Gwasgedd isel
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwyntoedd gyrraedd cyflymder o 70mya, ac 80mya mewn ardaloedd arfordirol - yn enwedig Cymru a Sianel Bryste - ddydd Mawrth.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae'r tywydd garw oherwydd cyfres o systemau o wasgedd isel sy'n symud ar draws Cefnfor yr Iwerydd.
Gallwch weld y rhybuddion tywydd diweddaraf ar wefan y Swyddfa Dywydd.
Straeon perthnasol
- Published
- 16 Tachwedd 2015