Ffrwydrad creadigol
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith Ifor Davies, un o arlunwyr blaenllaw Cymru, yn cael ei arddangos ar hyn o bryd yn Amgueddfa Cymru.
Mae arddangosfa 'Ffrwydrad Tawel', sydd i'w gweld tan ganol mis Mawrth 2016, yn adlewyrchu ei ddiddordeb mawr yng ngrym creadigol dinistr.
Ar ôl iddo ennill Medal Aur Celf Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, penderfynodd roi'r wobr yn ôl i'r Eisteddfod er mwyn sefydlu Gwobr Ifor Davies. Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno'n flynyddol i artist sy'n cyfleu'r frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru
Wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed eleni mae'r arlunydd, gafodd ei fagu yn Treharris yn Rhondda Cynon Taf, wedi bod yn trafod ei yrfa gyda Cymru Fyw:
Ydy'r reddf greadigol, ddinistriol wedi cryfhau, neu wanhau wrth i chi heneiddio?
Dyw e ddim wedi newid o gwbl. Nôl yn y 60au ro'n ni'n defnyddio ffrwydradau ond dim ond am ryw ddwy, dair blynedd wnes i wneud hynny a chyn hynny yn y 40au a'r 50au pan oedd y rhyfel ymlaen, o'n ni'n gwneud lluniau o awyrenau yn bomio a ffrwydradau a phethe fel'ny. Ond erbyn hyn, dinistr naturiol sy'n ymddangos yn fy ngwaith.
Er enghraifft, y peth diwethaf wnes i, oedd darn o'r enw 'Treth ag Angau'. Mae hwn wedi'i greu o'n hen amlenni treth i, amlenni llawn papurau chi fod i gadw am saith mlynedd ond ro'n ni'n cadw nhw am agos at hanner can mlynedd.
Ro'n nhw mewn garej ac roedd y lleithder wedi dechrau treiddio trwodd a dirywio'r amlenni a chreaduriaid bach a phryfed wedi dechrau eu bwyta nhw.
Dodes i'r amlenni i gyd at ei gilydd ar gynfas ac mewn un cornel dodes i lun o bapur newydd o Trefor ac Eileen Beasley. Ro'n ni'n nabod y Beasleys ac ro'n ni am roi rhyw fath o deyrnged neu gofiant iddyn nhw.
Ro'n ni bron â rhoi'r llun yn y canol, ond ro'n ni am ddangos eu bod nhw wedi gweithredu bron ar yr ymylon a neb yn eu parchu, felly roedd yr ymyl yn teimlo'n addas. Felly roedd dinistr naturiol yr amlenni, yn adlewyrchu'r dinistr orfododd y Cyngor ar y Beasleys.
Ydy hi'n haws bod yn artist 'avant-garde' heddiw na'r gorffennol?
Er bod fi'n falch o gael fy 'nabod fel artist avant garde, yn fy marn i ddaeth yr avant garde i fodolaeth yn ystod y chwyldro Ffrengig gan gyrraedd ei anterth tua 1913.
Mae pob dim ers hynny naill ai wedi bod yn ail-greu'r avant garde neu wedi bod yn ceisio pellhau oddi wrtho. Nod yr avant garde yw gweithredu fel chwyldro a newid pob dim.
Daeth y symudiad i ben ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Rhwng y ddau ryfel roedd e'n gyfnod o realism, oherwydd bod pobl eisiau ail-gydio yn eu bywydau fel roedd e cyn 1914.
Wnaeth y sefyllfa ddim newid eto tan ddechrau'r Rhyfel Oer pan fabwysiadodd artistiaid yn America yr avant garde i danlinellu'r gwahaniaethau rhwng y gorllewin rydd a'r dwyrain oedd dal yn gaeth i'r arddull realism.
Felly roedd ail-greu'r avant garde yn weithred wleidyddol iawn gan y sefydliad yn America.
Yn y 60au roeddwn ni'n ystyried fy hun fel artist avant garde, ond yn sylweddoli taw rhywbeth gwleidyddol iawn oedd hwn, a bod hi'n bosib gweld cefnogaeth 'Uncle Sam' ym mhob llun. Felly yn fy ngwaith, ro'n i am fynd i'r eithafbwynt, ac felly roedd y ffrwydradau hyn yr eithafbwynt mwyaf eithafol yn Ewrop ar y pryd.
A dyna beth wnes i. Dechrau creu ffrwydradau oedd yn berfformiadau a theatr arbrofol oedd yn mynd tu hwnt i'r cynfas. Dyma oedd fy ffordd i o greu rhywbeth positif oedd yn adwaith yn erbyn y gefnogaeth swyddogol, sefydliadol.
Felly i ateb eich cwestiwn, ydy hi'n haws i fod yn avant garde heddiw nag yn y gorffennol? Fi'n licio mynd i'r eithafbwynt, ond ambell waith, gall dyfrlliw fod yn eithafbwynt. Un o'r rhesymau stopiais i wneud ffrwydradau oedd bod yr arddull wedi ei dderbyn yn swyddogol gan yr academïau a'r ysgolion celf.
Pan ro'dd e yn answyddogol a phawb yn 'sgrifennu pethau cas amdana' i a'm gwaith, roedd yn iawn. Ond cyn gynted â daeth yn swyddogol, doedd dim pwynt i mi gario 'mlaen. Dyna yw bod yn avant garde, ac felly does dim ots pryd chi'n ei wneud e, ond eich bod chi yn newid ac yn herio'r sefydliad.
Ydych chi'n fodlon gyda'r ffordd mae celf yng Nghymru wedi datblygu yn ystod eich oes?
Mae wedi datblygu mewn ffyrdd gwahanol iawn. Gwnaeth Peter Jones waith ardderchog gyda'r Cyngor Celfyddydau yn y 60au, gwaith oedd ag amcanion roedd Cynghorau Celf Lloegr a'r Alban yn eu dilyn ac yn eu copïo.
Ond yn y 70au a'r 80au, doedd dim byd Cymreig yn y celfyddydau swyddogol, y celfyddydau allech chi gael arian amdanyn nhw. Roedd yr orielau yn dangos dim byd Cymreig ar wahan i bortreadau neu dirluniau neu bortreadau hanesyddol diniwed. Dim byd heriol, gwleidyddol oedd yn erbyn yr amcanion sylfaenol Prydeinig.
Os oeddech chi'n ceisio arddangos rhywbeth Cymreig, roeddech yn cael eich cyhuddo o fod yn gul neu'n rhy wleidyddol. Ond mae celfyddyd yn wleidyddol yn ei natur. Os yw celf yn geidwadol, mae'n arwydd fod pob dim yn iawn yn y byd a dyna beth oedd y sefydliad eisiau.
Ond yn araf iawn mi wnaeth pethau newid. Roedd gwledydd eraill yn y byd yn dechrau arddangos gwaith gan leiafrifoedd oedd yn herio'r status quo, ac yn araf iawn y gwnaeth pethau droi. Er roedd y clique sefydliadol Prydeinig yn benderfynol o gadw pethau'n saff.
Yn ffodus, a diolch byth, erbyn hyn, mae pethau wedi newid yn llwyr. Mae'r ffaith fod yr arddangosfa hon yn yr Amgueddfa, yn arwydd o hynny.
Mae sefydlu'r Cynulliad wedi bod o gymorth, ond fi'n dal i deimlo fod rhaid ymladd i gael gwaith sydd yn wleidyddol neu'n heriol wedi ei arddangos mewn orielau cyhoeddus.
Mewn ffordd mae'n dda ein bod ni'n gorfod ymladd a gwthio, mae'n ysbrydoli. Ond mae'n beth drwg hefyd.
Ydy'r gyfundrefn grantiau yn y byd celf yn poeni chi?
Mae'n dibynnu pwy sy'n didoli'r grantiau. Trwy ariannu Gwobr Ifor Davies yn yr Eisteddfod rwy'n gallu didoli grant i waith sydd yn plesio fy argymhellion i.
Mae'r un peth yn wir am bob grant. Y tueddiad yw, ar draws Prydain, bod rhyw ddylanwad, falle'n yr isymwybod, ond mae yna ddylanwad, o'r sefydliad a'r gyfundrefn sydd yn bodoli yn San Steffan.
Os nad yw'r gyfundrefn yn gwerthfawrogi'r celfyddydau, fel mae'r un bresennol, mae hynny'n cael ei adlewyrchu wedyn yn y gwaith sydd yn cael ei ariannu.
Does dim ots p'run ai'r Ceidwadwyr yn San Steffan neu'r blaid Lafur yng Nghymru sydd yn rheoli, mae'r ddau'n rhan o'r sefydliad ac felly wrth natur yn geidwadol ac yn negatif.
Beth ydych chi'n gweithio arno hyn o bryd?
Wrth baratoi am yr arddangosfa, ychydig iawn o amser oedd gyda fi i greu gwaith fy hun, ond rwy' wedi gwneud rhywfaint, ac rwy'n gweithio ar rywbeth sydd rhwng celf a'r byd real.
Rwy'n defnyddio hen ddarnau o ddodrefn neu gelfi pobl sydd yn agos ata'i neu'n nheulu. Wrth osod y darnau hyn yn un o'm lluniau, rwy'n ceisio'r cyfleu'r teimladau personol sydd gyda fi amdanyn nhw.
Ma' rhyw deimlad o hiraeth wrth greu rhywbeth sy'n bersonol i chi, a dylai'r ysbryd hwn ddod mas o'r darn, gan drosglwyddo'r emosiwn i'r person sy'n edrych arno.
Ydy hyn yn arwydd fod yr elfen ddinistriol wedi diflannu o'ch gwaith, ac yn eich oed a'ch amser, y pwyslais nawr yw cofio'r gorffennol a'i gofnodi er mwyn gadael gwaddol?
Mae dinistr yn rhan o greu, dyw e ddim yn rhywbeth sydd ar ei ben ei hun, mae cysylltiad rhwng dinistrio a chreu, a'r cyfan 'chi'n gwneud wrth greu, yw dinistrio rhywbeth o'i ffurf bresennol a'i newid i ffurf arall.
Mae'n broses ddi-ddiwedd a fi'n teimlo taw dim ond rhyw 25 mlynedd sydd gyda fi'n sbâr. Mae lot i'w wneud!