Pobol y Cwm yn cipio gwobr Mind
- Cyhoeddwyd

Mae'r gyfres Pobol y Cwm wedi curo operâu sebon Coronation Street, Emmerdale, Holby City a Hollyoaks i gipio gwobr yn noson wobrwyo Mind Media.
Rhoddwyd y wobr am bortread o anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) Iolo White, sy'n cael ei chwarae gan yr actor Dyfan Rees yn y gyfres.
Mae Gwobrau Mind ar gyfer y Cyfryngau'n dathlu'r enghreifftiau gorau o adrodd am iechyd meddwl a phortreadu iechyd meddwl ar y cyfryngau print, darlledu a digidol, gan gynnwys rhaglenni dogfen a drama ar y radio a'r teledu, y cyfryngau ar gyfer pobl ifanc, y newyddion ac operâu sebon.
Dyma'r ail dro i opera sebon teledu hiraf y BBC ennill y wobr. Yn 2009, enillodd y gyfres y wobr am bortread mam sengl o iselder ar ôl geni.
'Gwaith anhygoel'
Dywedodd Llŷr Morus, cynhyrchydd y gyfres, bod ennill yn anrhydedd enfawr: "Mae hi'n bwysig i ni fel cyfres ddarlunio profiadau go iawn, profiadau sy'n berthnasol i'n cynulleidfa, a phrofiadau y gall ein cynulleidfa uniaethu â hwy.
"Mae cael ein cydnabod am hynny ochr yn ochr ag operâu sebon eraill sydd ar y brig ym Mhrydain yn glod i'r gwaith anhygoel mae awduron, actorion ac adrannau golygyddol a chynhyrchu'r gyfres wedi cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf."
Ychwanegodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg y BBC: "Mae'n wych gweld cyfres fel Pobol y Cwm yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol unwaith eto am adlewyrchu storïau yn ymwneud a phroblemau iechyd meddwl.
"Mae'n hollbwysig bod cyfresi o'r fath yn delio gyda phynciau a storïau anodd fel hyn sydd yn gyffredin o fewn cymdeithas."
Mae Pobol y Cwm ar S4C am 20:00 ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener. Gall gwylwyr wylio'r rhaglenni ar-lein ar BBC iPlayer.