Pallial: Cyn-blismon gerbron llys

  • Cyhoeddwyd
Gordon Anglesea
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Gordon Anglesea ei arestio fel rhan o Ymgyrch Pallial

Mae cyn-blismon o Hen Golwyn wedi ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiadau pellach o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafodd Gordon Anglesea, 78 oed ac yn gyn brif-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, ei gyhuddo o dri throsedd yn ymwneud â bachgen o dan 16 oed - honnir i'r troseddau ddigwydd rhwng 1982 a 1983.

Ym mis Gorffennaf eleni cafodd Mr Anglesea ei gyhuddo o saith trosedd honedig yn erbyn tri bachgen rhwng 1979 a 1987 pan oedd y bechgyn rhwng 11 ac 16 oed.

Mae o bellach felly'n wynebu cyfanswm o ddeg cyhuddiad yn ymwneud â phedwar o blant.

Ar ddiwedd gwrandawiad a barodd am dri munud, cafodd Mr Anglesea ei rhyddhau ar fechnïaeth tan iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar ddydd Gwener, 20 Tachwedd ar gyfer gwrandawiad cychwynnol mewn perthynas â'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.