Paris: Datganiad Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi gwneud datganiad arbennig yn y Senedd i drafod y digwyddiadau ym Mharis.

Ar ddechrau sesiwn holi'r prif weinidog, roedd cyfle i'r holl bleidiau fynegi eu barn am y drasiedi a welodd 129 o bobl yn cael eu lladd ym mhrifddinas Ffrainc dros y penwythnos.

Dywedodd Carwyn Jones: "Mae pobl Paris wedi talu'n ddrud am yr hawl i fyw mewn rhyddid a mae dyletswydd arnom ni i gyd i warchod gwerthoedd rhyddid a democratiaeth ar bob cyfrif.

"Ddoe fe wnes i ysgrifennu at Lysgennad Ffrainc i fynegi ein cydymdeimlad fel gwlad gyda'i bobl.

"Er bod diogelwch y wlad yn fater i lywodraeth y DU, fe fues i'n bresennol mewn cyfarfod COBRA (Ystafell Gyfarwyddo Swyddfa'r Cabinet) er mwyn clywed y diweddaraf am y trefniadau ar gyfer yr heddlu a'r gwasanaethau diogelwch.

"Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o waith y gwasanaethau yma wrth geisio ein cadw'n ddiogel.

"Mae'n bwysig hefyd mynegi ein hundod gyda'r gymdeithas Fwslimaidd yma yng Nghymru. Mae Mwslemiaid yn gwneud cyfraniad pwysig a gwerthfawr i'n cymdeithas."

'Crefydd heddychiaeth'

Cytunodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, gyda nifer o'r sylwadau gan ddweud:

"Nid yw Islam yn grefydd o drais - mae'n grefydd o heddychiaeth ac mae'n rhaid cofio hynny.

"Rhaid i ni geisio addysgu pobl mai dyna'r gwirionedd, ac nad yw'r farn sy'n cael ei arddel gan rai ar eithafion y byd Mwslimaidd yn adlewyrchu barn y mwyafrif."

Ychwanegodd Mr Jones bod nifer o faterion am blismona wedi codi yn sgil yr ymosodiadau ym Mharis, ac er mai mater i San Steffan yw'r rheini, fe fydd gweinidog gwasanaethau cyhoeddus Cymru, Leighton Andrews, yn cwrdd gyda'r heddluoedd ddydd Mawrth.

Hefyd ddydd Mawrth, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod llinell gymorth wedi cael ei sefydlu i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis.

Mae modd galw 0800 1070900 am ddim, ac fe fydd yn cynnig cefnogaeth 24 awr y dydd.

Mae hefyd yn bosib gyrru neges destun gyda'r gair 'help' i 81066.