'Nid gynnau taser' laddodd Arlindo Furtado o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae patholegydd wedi dweud wrth gwest bod dyn o Gaerdydd wedi marw ar ôl cael ei drywanu, ac nid o ganlyniad i'r heddlu yn tanio gynnau Taser.
Cafodd Arlindo Furtado, 41, anafiadau difrifol a bu farw yn yr ysbyty ar ôl i heddlu arfog a thrafodwyr yr heddlu fod yn ei dy yn ardal Sblot am dros ddwy awr fis Hydref llynedd.
Dywedodd y patholegydd ei fod wedi darganfod tystiolaeth i'r heddlu danio eu gynnau Taser.
Fe wnaeth dau daniad gysylltu â dillad Mr Furtado, ond nid dyna sut y bu farw, meddai.
Clywodd y cwest yn Aberdâr fod Heddlu De Cymru wedi eu galw i Stryd Adeline yn Sblot ar 11 Hydref 2014.
Roedd adroddiadau ar y pryd bod Mr Furtado yn y tŷ gyda chyllell.
"Roedd yr anaf i'w wddf yn ddigonol i achosi ei farwolaeth," meddai'r patholegydd.
"Cyn belled ac mae'r Taser yn y cwestiwn, rwyf wedi fy argyhoeddi mai nid y saethu a arweiniodd yn uniongyrchol at atal curiad y galon."
Dywedodd y patholegydd bod Mr Furtado yn ymwybodol ac yn gallu siarad gyda'r parafeddygon ar ôl cael ei drywanu ac ar ôl i'r gynnau Taser gael eu tanio.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.