Cais i ehangu cynllun trydan dŵr

  • Cyhoeddwyd
Glyn Rhonwy
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cwmni yn gobeithio agor y safle yn 2018

Mae cwmni wedi gwneud cais i'r Arolygiaeth Gynllunio i ehangu cynllun trydan dŵr arfaethedig gwerth £160m ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri ger Llanberis.

Roedd cwmni Snowdonia Pumped Hydro wedi derbyn caniatad i adeiladu cynllun gydag allbwn o 49.9MW o ynni ar safle hen chwarel lechi Glyn Rhonwy yn barod, ond y gobaith ydi dyblu maint y cynllun i 99.9MW.

O dan y drefn gynllunio roedd yn rhaid i'r cwmni wneud cais i'r Arolygiaeth Gynllunio yn hytrach na'r awdurdod lleol am unrhyw gynllun dros 50MW ac mae'r cwmni wedi cadarhau fod y cais hwnnw wedi ei wneud.

Fe fyddai'r cynllun newydd ar yr run raddfa yn ddaearyddol a'r cynllun blaenorol, ond fe fyddai capasiti'r tyrbinau ddwywaith yn fwy.

Byddai'r trydan yn cael ei gludo drwy wifrau tanddaearol i Bentir cyn ymuno gyda'r grid cenedlaethol.

Dyma fydd y cyfleusterau storio trydan ar raddfa genedlaethol cyntaf ym Mhrydain ers dros 30 mlynedd.

Bydd trydan yn cael ei gynhyrchu drwy bwmpio dŵr i fyny llethr cyn ei ryddhau yn ôl i lawr drwy dyrbin.