Darganfod corff pysgotwr mewn marina
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi mai corff pysgotwr oedd ar goll oedd yr un gafodd ei ddarganfod ym Marina Abertawe.
Cafodd swyddogion eu galw i'r lleoliad am 08:00 ddydd Mawrth.
Dywed yr heddlu mai enw'r dyn oedd Lee Turner, 45 oed, o Blasmarl, Abertawe, ac roedd wedi bod ar goll ers 7 Tachwedd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod teulu Mr Turner wedi cael gwybod, ac nid oedd ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.