Y CBI yn cyhoeddi maniffesto etholiad 2016
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas y Cyflogwyr, y CBI, wedi cyhoeddi maniffesto busnes ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2016 gan esbonio eu "gweledigaeth" am sut y gall Cymru sicrhau ei dyfodol economaidd yn y blynyddoedd i ddod.
Yn y ddogfen 'Cynllun ar gyfer ffyniant' mae'r CBI yn gosod y polisiau y mae busnesau am eu gweld yn cael eu mabwysiadu gan y llywodraeth nesaf yn y Cynulliad.
Mae argymhellion y CBI yn cynnwys sefydlu wyth cyngor sir erbyn 2018 i greu comisiwn isadeiledd a Chyngor Twf Cymru. Byddai'r gymdeithas hefyd yn hoffi gweld cymorth gwarchod plant i rieni sydd yn gweithio mewn ardaloedd ble mae perfformiad addysg plant ar ei isaf.
Dywed y gymdeithas y byddai ei hargymhellion yn adfywio twf mewn ffordd "radical". Dywedodd Emma Watkins, cyfarwyddwr y CBI yng Nghymru: "Gan gydweithio, gall busnesau a llywodraeth wneud Cymru'n 2020 yn fwy llwyddianus, yn fwy cynhaliol a bywiog. Mae'r Gymru yr ydym am ei gweld yn Gymru fyddai'n gweithio i bawb."
'Gweledigaeth'
"Bydd delifro'r weledigaeth yma yn cymryd arweinyddiaeth gadarn, dewrder gwleidyddol a phenderfyniad ond fe fydd yn gosod seiliau i ddyfodol llewyrchus.
"Mae maniffesto CBI Cymru wedi cael ei ddatblygu gan fusnesau ar hyd a lled Cymru, o bob sector a phob maint o'r economi. Rydym yn sefyll yn barod i weithio gyda llywodraeth a'n harweinwyr gwleidyddol i gynnig twf a chyfle i bawb."
Dywedodd cadeirydd y CBI yng Nghymru, Chris Sutton: "Wrth i'r economi adnewyddu, bydd Cymru'n wynebu cystadleuaeth gadarn o ranbarthau Lloegr a chenhedloedd eraill o gwmpas y byd. Gyda sector breifat fechan a chynhyrchiant isel nid oes modd i ni laesu dwylo.
"Mae gan lywodraeth nesaf Cymru gyfle hanesyddol i osod mesurau pellgyrhaeddol mewn grym fydd yn cau y bwlch economaidd gyda rhanbarthau a chenhedloedd eraill i ddelifro'r ffyniant y mae Cymru ei angen.
"Bydd llwyddo i gael economi fwy cynaliadwy a chynnig mwy o gyfleoedd gwell i bawb yn cymryd arweinyddiaeth, cydweithio a phartneriaethau."