Arfau Trident: Aelodau Cynulliad i drafod dyfodol
- Cyhoeddwyd

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn clywed galwadau i beidio ag adnewyddu system arfau niwclear Prydain, Trident, mewn dadl ddydd Mercher.
Daw'r alwad i beidio ag adnewyddu Trident gan Blaid Cymru, ond mae'r ddadl honno'n cael ei gwrthwynebu gan weinidogion Llafur sy'n dweud mai mater i Lywodraeth Prydain ydi dyfodol Trident.
Caiff y ddadl ei gweld gan rai fel ymgais gan Blaid Cymru i godi cywilydd ar Lafur, gan fod nifer o ACau Llafur am weld Trident yn dod i ben.
Yn San Steffan mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar y mater yn 2016, gydag arweinydd Llafur Jeremy Corbyn yn erbyn adnewyddu Trident tra bod nifer o fewn ei blaid am weld Trident yn parhau.
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi disgrifio arfau niwclear fel y "polisi yswiriant gorau y gall unrhyw un ei gael".
Fe wynebodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones feirniadaeth o fewn ei blaid yn 2012 am awgrymu y byddai "croeso" i longau tanfor niwclear yn Sir Benfro, petai nhw'n gorfod gadael eu cartref presennol ar arfordir gorllewinol yr Alban.