Meddyginiaeth o China i drin canser?
- Published
Gallai cyfuniad o gemegolion o blanhigion fod yn allweddol yn y frwydr i drin mathau o ganser sydd hyd yma wedi bod yn amhosib i'w gwella, medd gwaith ymchwil newydd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o astudiaeth fyd eang sy'n honni mai cyfyng yw gallu triniaethau canser tocsig i atal canser rhag lledu.
Yn hytrach na hynny, mae cemegolion llai gwenwynig o fwydydd a llysiau'n cael eu hargymell.
Fel rhan o'r astudiaeth, bu Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwiliadau i gemegolion o'r fath.
Triniaethau sy'n ganrifoedd oed
Ynghyd â gwyddonwyr o wledydd yng Ngogledd America, Ewrop a'r Dwyrain Pell, mae'r tîm wedi dod o hyd i gyfres o gemegolion mewn planhigion, ac wedi gweithio ar y cyd â sefydliadau Chineaidd i astudio'r nodweddion mewn meddyginiaethau Chineaidd o'r enw YangZheng XioaJi, sy'n gallu ymladd canser.
"Mae meddyginiaethau traddodiadol o China yn ddiddorol i'w hystyried fel triniaethau newydd ar gyfer canser, gan eu bod yn driniaethau llai gwenwynig a llai drud, sydd wedi bod yn cael eu defnyddio ers canrifoedd," medd yr Athro Wen Jiang o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
"Rydym wedi canfod fod YangZheng XioaJi yn gallu rhwystro gallu'r celloedd canser i lynu ac ymledu ag ymyrryd a nifer o'r llwybrau yn y corff sy'n cael eu cysylltu â thwf canser" meddai.
Mae profion clinigol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ar gleifion yn China sydd â chanser yr ysgyfaint, yr afu neu'r stumog.