Darlith Greer yng Nghaerdydd wedi ei sylwadau dadleuol

  • Cyhoeddwyd
Germaine Greer

Bydd Germaine Greer yn cyflwyno darlith Hadyn Ellis 2015 ym Mhrifysgol Caerdydd nos Fercher, yn dilyn sylwadau dadleuol wnaed ganddi'n ddiweddar am fenywod trawsrywiol.

Ym Mis Hydref 2015, corddodd Ms Greer y dyfroedd pan ddywedod nad oedd yn meddwl bod menywod trawsrywiol yn fenywod go iawn.

Cafodd deiseb ei dechrau yn gofyn i Brifysgol Caerdydd ganslo'r ddarlith, gan rai oedd yn dweud bod ei hagweddau tuag at bobl trawsrywiol yn "broblematig".

Ond dywedodd y Brifysgol ei bod wedi cysylltu â chynrychiolwyr Germaine Greer, a bydd y ddarlith dan y teitl "Menywod a Phŵer: Gwersi'r 20fed Ganrif" yn cael ei chynnal, yn ôl y bwriad.

'Rhyddid barn'

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydym wedi ymrwymo i ryddid barn a dadl agored.

"Mae ein digwyddiadau'n cynnwys siaradwyr sydd ag ystod o safbwyntiau, a phob un yn cael eu herio a'u dadlau'n drwyadl. Ni fydd y digwyddiad hwn yn ddim gwahanol.

"Mae ein hymrwymiad i'n staff a myfyrwyr LGBT+ mor gryf ag erioed, ac rydym yn cydnabod yn llawn yr holl fanteision i Brifysgol Caerdydd o ganlyniad i gael cymuned mor amrywiol.

"Rydym yn gweithio'n galed i roi lle cadarnhaol a chroesawgar i bobl LGBT+ ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rydym yn ymgynghori gyda grwpiau myfyrwyr a staff i sicrhau y cynrychiolir barn pobl LGBT+ yn ein digwyddiadau.

"Ni fyddwn yn esgusodi unrhyw fath o sylwadau gwahaniaethol o dan unrhyw amgylchiadau."