Agor cynulliad bwyd cyntaf Cymru yn Llangollen
- Cyhoeddwyd

Bydd Cynulliad Bwyd Cyntaf Cymru yn agor yn Llangollen nos Fercher gan roi cyfle i bobl allu prynu bwyd lleol yn ffres, ac yn syth o'r cynhyrchwyr.
Dechreuodd y fenter yn Ffrainc yn 2009 ac mae wedi tyfu'n gyflym yno ers 2011. Mae'n gymysgedd o 'Pop-up Shop' ac archebu o flaen llaw arlein.
Yn ôl y trefnwyr, mae'r fenter o fudd i'r economi leol hefyd, gyda 90c o bob £1 yn aros yn lleol.
Mae'r syniad, ddechreuodd yn Ffrainc, wedi teithio ar draws Ewrop, gyda Gwlad Belg, Sbaen, Yr Eidal a'r Almaen wedi ymuno. A bellach mae Cymru'n barod i ymuno yn y fenter.
Cynhyrchwyr lleol
'La Ruche qui dit Oui' yw enw'r fenter yn Ffrangeg, sef 'Ma'r cwch gwenyn yn dweud ie', ac yn debyg i gwch gwenyn, mae cwsmeriaid a chynhyrchwyr yn cwrdd â'i gilydd pan fydd hi'n amser casglu'r nwyddau.
Un o'r cwsmeriaid cyntaf i archebu arlein yw Nia Jones sy'n byw yn lleol.
Dywedodd: "Y ffordd mae e'n gweithio ydy ein bod ni'n gallu archebu pethau arlein ac wedyn mynd i'w casglu tu allan i oriau gwaith, a ma' hynny'n bwysig, oherwydd fel person lleol da ni ddim yn gallu mynychu'r siopau lleol yn ystod yr wythnos.
"Rwyt ti'n gallu dod i adnabod y bobl sy'n creu'r bwyd a'r diod."
Un o'r cynhyrchwyr yw Tim Parry o'r Rhyl sy'n rhedeg cwmni Mug Run Coffee.
Dywedodd: "Dwi'n hoffi'r ffaith ei fod yn y gymuned gyda phawb, oherwydd dwi'n neud lot o farchnadau ffermwyr ar draws y gogledd, ac mae'n neis i fod yn y gymuned a bod pobl yn cymryd rhan i gael bwyd ffres.
"Gyda'r cynllun yma, rwyt ti'n gallu dod i adnabod y bobl sy'n creu y bwyd a'r diod. Pobman dwi'n mynd, mae pobl yn licio bod y cynnyrch yn ffres, a'u bod yn gallu siarad gyda'r person sy'n cynhyrchu."
Cynulliad bwyd yn 'hawdd i'w sefydlu'
Mae'r Cynulliad Bwyd yn gweithio ar fodel ddatganoledig. Mae'r tîm yn Llundain yn helpu i drefnu, ond y trefnwyr lleol sydd berchen y Cynulliad.
Yn ôl Robyn Lovelock, sy'n trefnu'r Cynulliad yn Llangollen, mae e'n brosiect sy'n hawdd i'w sefydlu. Ac yn ôl Nia Jones, mae'n hawdd i'r cwsmeriaid brynu nwyddau hefyd.
"Roedd hi'n rhwydd ofnadwy. Chi'n rhoi eich ebost chi, eich enw a'ch cyfeiriad, a dyna fo i gychwyn i chi gael gweld y siop a gweld sut mae o'n gweithio.
"Unwaith 'da chi 'di gwneud hynna, mae rhestr y bwyd yn dod fyny, ac ma hi mor syml a chlicio, mynd a'r hyd y rhestr a chlicio, clicio, clicio, a wedyn talu ar y diwedd."