Cwpan yr FA: Casnewydd 4-1 Brackley
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd drwyddo i ail rownd Cwpan yr FA ar ôl curo Brackley o bedair gôl i un yn y gêm ail-chwarae.
Fe sgoriodd Lenell John-Lewis yn y funud gyntaf, cyn i Yan Klukowski ddyblu'r sgor o gic rydd.
Roedd 'na lygedyn o obaith i Brackley pan sgoriodd Aidan Hawtin i'r ymwelwyr.
Ond, sicrhaodd Alex Rodman drydedd gôl i ymestyn mantais Casnewydd, cyn i Hawtin rwydo i'w gôl ei hun.