Cymru'n cofio Jonah Lomu

  • Cyhoeddwyd
Jonah Lomu yn chwarae i Seland Newydd yn erbyn Awstralia yn 2000Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe sgoriodd Jonah Lomu 37 cais i'r Crysau Duon

Mae pobl wedi bod yn cofio am chwaraewr rygbi Seland Newydd a'r Gleision, Jonah Lomu, fu farw yn 40 oed.

Daeth Jonah Lomu yn seren byd eang ar ôl cynrychioli'r Crysau Duon yn y Cwpan Byd yn 1995. Yn fuan wedi hynny, mi gafodd wybod fod ganddo afiechyd ar yr arennau a bu'n brwydro yn ei erbyn ers hynny.

Roedd ar ddialysis yn ddyddiol, ac ar restr aros am aren newydd pan fu farw.

Fe sgoriodd yr asgellwr 37 o geisiau mewn 63 o gemau rhyngwladol, a chwaraeodd 10 gêm i'r Gleision yn ogystal rhwng 2005 a 2006.

Mae'n gadael gwraig a dau o feibion.

'Anodd credu'

Mae'r newyddion am ei farwolaeth wedi synnu, a thristáu cyn-faswr a chyn-gapten Cymru, Jonathan Davies:

"Weles i e yn Dubai yn ddiweddar," meddai. "Ma'n anodd i gredu fe - oedd e'n edrych mewn iechyd da, edrych mor dda a mor hapus.

"Colled mor drist ag ynte mor ifanc. Ma' be' gyflawnodd e ar y cae yn anhygoel - y ffordd oedd e'n chware."

Ychwanegodd: "Ma' fe lawr fel un o'r goreuon. Newidiodd e'r gêm rygbi. O'dd neb 'di gweld rhywbeth fel e cyn bod e'n dod ymlaen.

"Fel chwaraeodd e, ei seis e, ei gyflymdra fe.

"Aeth e a miloedd a miloedd o bobl i edrych ar y gêm rygbi achos o'dd neb 'di gweld unrhyw beth fel e o'r blaen."

'Brwydro mor galed'

Ffynhonnell y llun, @samwarburton_
Disgrifiad o’r llun,
Rhoddodd capten Cymru, Sam Warburton, deyrnged i Lomu ar ei gyfrif Twitter

Un sy'n dilyn rygbi yn Seland Newydd ac sydd wedi byw yno ers 10 mlynedd ydy Delyth Morgan, ac fe ddywedodd hi ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Mercher:

"Mae'r gymuned gyfan yn teimlo'n arbennig o drist fod Jonah wedi colli ei frwydr yn erbyn ei afiechyd.

"Mae'n adlewyrchiad o'r dyn oedd e oddi ar y cae rygbi, yn ogystal â'i allu ar y cae, fod e wedi cydio mewn cynifer o bobl yn y gymuned. nid jyst yn Seland Newydd ond mewn cymunedau ar draws y byd. Mae pobl o ledled y byd yn talu teyrnged iddo.

"Roedd e 'di brwydro mor galed i gynnal ei waith a g'neud be' oedd yn bwysig iddo fe.

Ffynhonnell y llun, AFP

"Roedd e'n gyflymach ac yn fwy nag unrhyw un oedd yn dod lan yn ei erbyn, ac mi brofodd hynny yn erbyn chwaraewyr gorau'r byd.

"Mae 'na gymaint o atgofion o weld Jonah Lomu yn troedio dros yr amddiffynfa i sgorio ceisiau di-ri'. Does neb 'di gweld unrhyw beth tebyg i Lomu ers hynny.

"Roedd e'n o'r pethe mwya' peryglus alle' chi weld ar gae rybi a'i dîm e'n gwybod hynny. Roedden nhw'n taflu pêl ato o bob rhan o'r cae er mwyn cael manteisio ar ei gryfder.

"Mae'r holl sylw iddo fe rwan yn dod â rygbi a'r holl gymuned yn ôl at ei gilydd - fe fydd e'n cael ei gofio am ei ddawn rygbi a hefyd y math o berson oedd e.

"Roedd e'n ddyn addfwyn iawn - fydde' chi byth yn ystyried fod y dyn oedd yn gallu gwthio ei ffordd drwy'r holl ddynion ar y cae rygbi yn gallu bod yn berson mor addfwyn. Roedd pobl mo'yn bod yn rhan o'r hyn oedd e, cael ei ysbrydoli ganddo fe."

Ffynhonnell y llun, ALAMY
Disgrifiad o’r llun,
Fe chwaraoedd Jonah Lomu 10 gêm i'r Gleision rhwng 2005 a 2006

'Caredig a diymhongar'

Fe gyhoeddodd Gleision Caerdydd ddatganiad wedi'r newyddion am farwolaeth eu cyn chwaraewr.

Dywedon nhw: "Fe gyrhaeddodd Jonah i chwarae i Gleision Caerdydd yn 2005. Fe wnaeth 10 ymddangosiad, gan sgorio un cais, a daeth miloedd i'w wylio.

"Ar y cae roedd e'n gallu newid y gêmm, asgellwr dinistriol a hynod dalentog sydd wedi rhoi cymaint o atgofion i gefnogwyr rygbi.

"Oddi ar y cae roedd e'n garedig, diymhongar ac yn ddyn teulu, wnaeth lawer o ffrindiau yn ystod ei gyfnod gyda ni."

"Rydym yn cydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau."

Bydd teyrnged iddo cyn y gêm yng Nghwpan Ewrop yn erbyn yr Harlequins nos 'fory.

'Un o'r sêr mwya'

Dywedodd sylwebydd rygbi BBC Cymru, Gareth Charles:

"Sioc anferth oedd cael yr alwad ffôn yn oriau man y bore.

"Oedd e draw yn recordio rhaglen i Max Boyce adeg Cwpan y Byd ac oedd e'n edrych yn dda, edrych yn iach.

"Ar ôl yr holl broblemau iechyd oedd e 'di cael dros y blynyddoedd, bod hyn yn gallu digwydd mor sydyn - mae 'di bod yn sioc enfawr.

"Mae'r gair seren, neu legend yn Saesneg, cael ei gamddefnyddio'n aml yn y byd chwaraeon. Ond roedd Jonah Lomu yn un o'r sêr mwya' yn y byd rygbi.

"Roedd e'n chwe troedfedd pump, yn pwyso 19 stôn, ac 20 mlynedd yn ôl roedd hynny'n beth hollol unigryw, ag yntau'n gallu rhedeg mor gyflym hefyd.

"Fe 'nath Jonah Lomu rygbi'n gêm fyd-eang, roedd e'n tynnu sylw o bob cwr o'r byd. Hyd yn oed mewn llefydd fel America, lle 'doedden nhw ddim yn chware lot o rygbi ar y pryd.

"Fe sgoriodd e saith cais yng Nghwpan y Byd yn '95, ac wyth yn '99 - 'doedd pobl ddim yn gwbod sut i'w stopio.

"Oddi ar y cae, roedd e'n berson hollol ddiymhongar, llais tawel ganddo ac amser i bob un - gan gynnwys y plant o'dd ishe ei lofnod. Ro'dd e'n berson mor hoffus a mor boblogaidd.

"Pan ddaeth e at y Gleision, odd e'n bell o fod ar ei orau ond yn dal i ddenu'r torfeydd - roedd pobl ishe ei weld e.

"Roedd chwarae i Seland Newydd yn golygu shwt gymaint iddo hefyd. Roedd e'n caru rygbi a charu bywyd - a'r byd rygbi'n ei garu fe'n ôl hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Lomu yng Nghwpan y Byd 1995, pan sefydlodd ei hun yn y byd rygbi rhyngwladol

Yn siarad ar Radio Cymru fore Mercher, dywedodd y sylwebydd Huw Llywelyn Davies bod Lomu yn "gawr yn wir ystyr y gair, ym mhob ffordd, chwe throedfedd a phedair modfedd ohono, bron yn 19 stôn".

"Superstar cynta'r gêm. Dyna fyddai llawer o bobl yn dweud wrth roi teyrngedau iddo fe.

"Bachgen o'r maint yma, mor gryf, mor ddidrugaredd ar y cae, ond un o'r bobl mwyaf addfwyn allwch chi gwrdd â nhw erioed.

"Yn siarad yn dawel, oddi ar y cae o'dd ei bersona fe yn gwbl wahanol i'r bachgen yma bydde' chi'n gweld ar y cae."

'Parch'

Soniodd am un atgof yr oedd wedi ei glywed am dîm rygbi Lloegr: "O'dd Clive Woodward wedi deud pan oedd e'n hyfforddi Lloegr, o'dd e wedi deud wrth dîm Lloegr yn y stafell newid neu mewn cyfarfod cyn y gêm, bydde fe ddim yn cyfnewid unrhyw un o'i chwaraewyr e am neb oedd yn nhîm Seland Newydd, i geisio ysbrydoli ei dîm.

"A dyma Will Greenwood y canolwr yn deud 'ar ran y tîm i gyd dwi'n credu ein bod ni'n fodlon derbyn Jonah Lomu yn lle Austin Healy'.

"A dyna'r math o barch sydd wedi bod yn y byd rygbi'n gyffredinol i Jonah Lomu dros y blynyddoedd.

Chwarae yn ei erbyn

Mae Alan Owen, o Fangor, yn cofio chwarae yn erbyn Jonah Lomu fel rhan o dîm lleol gogledd Cymru, ac mi ddywedodd ar Raglen Dylan Jones fore Mercher ei bod yn "fraint cael chwarae yn ei erbyn".

Meddai: "Dwi'n cofio taclo Jonah Lomu...Ac mi o'n i'n hynod o bles efo hynny, yn neidio fyny ac i lawr fel 'mod i wedi ennill y loteri...Ond be nes i ddim sylweddoli oedd fod Jonah Lomu wedi codi fynu ac wedi rhedeg 30 llath eto a sgorio trei.

"Mi oedd yn enfawr, dwi 'rioed wedi gweld person mor fawr yn sefyll drws nesa i mi, mi oedd yn gwneud i mi edrych fel hogyn bach ysgol, ac mi o'n i'n 15 stôn ac yn chwe troedfedd."