Pedwar yn cael triniaeth a dau ar goll ar ôl ffrwydrad
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson ar goll a phedwar yn cael triniaeth ysbyty yn dilyn ffrwydrad ar safle gwaith dur yng Nghaerdydd.
Mae'r tân bellach wedi ei ddiffodd, ac mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am ddau weithiwr wedi'r ffrwydrad ar safle Celsa Steel yn ardal Sblot.
Mae Ysbyty Athrofaol Cymru'n dweud bod pedwar claf wedi cyrraedd yr ysbyty, ac nad ydyn nhw'n disgwyl mwy.
Nid oes gwybodaeth am gyflwr y pedwar.
Cafodd pumed person anafiadau, ond nid oedd angen cludo'r person i'r ysbyty.
'Digwyddiad difrifol'
Roedd Ysbyty Athrofaol Cymru yn gweithredu trefn o ymateb i ddigwyddiad difrifol, ond dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol bod hynny bellach ar ben.
Dywedodd Alice Casey: "Rydyn ni wedi derbyn pedwar claf wedi'r digwyddiad ac maen nhw'n cael eu hasesu a'u trin yn yr Uned Frys yn Ysbyty athrofaol Cymru."
Dywedodd y bwrdd iechyd y gall fod oedi i gleifion sydd ddim angen gofal brys yn yr ysbyty, ac maen nhw'n annog pobl i ddewis yn ddoeth a defnyddio'r gwasanaeth sydd fwyaf addas i'w hanghenion.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw am 10:30 ac aeth injan dân a sawl ambiwlans i'r safle.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod pump o bobl wedi eu hanafu.
Roedd y tân ar lawr gwaelod yr adeilad.
Adeilad yn ysgwyd
Dywedodd dyn busnes lleol, oedd ddim am gael ei enwi, ei fod wedi clywed "ffrwydrad mawr ac wedi gweld mwg yn codi".
"Mae 'na lawer o heddlu a sawl injan dân wedi mynd mewn i'r gwaith dur. Mae o leia' un ambiwlans yno."
'Ffrwydrad anferth'
Ychwanegodd: "Roedd yn ffrwydrad anferth, tipyn o beth. Fe wnaeth ein hadeilad ni ysgwyd - rydyn ni rhyw 100 i200 llath o'r safle.
"Roedd 'na fwg trwchus du a llawer ohono."
Dywedodd Helen Vernon, sy'n gweithio mewn meithrinfa agos: "Es i allan a dywedodd PCSO bod ffrwydrad mawr wedi bod. Dyna i gyd oedden nhw'n gallu dweud wrtha i.
"Fe glywson ni glec uchel iawn. Dywedodd cydweithiwr, oedd yn y 'stafell staff, bod y to wedi ysgwyd."
Dywedodd llefarydd ar ran undeb y gweithwyr dur, Community: "Mae'r adroddiadau o ffrwydrad ar safle gwaith dur Celsa yng Nghaerdydd yn bryderus iawn.
"Mae aelod o'n tîm rhanbarthol ar y ffordd i'r safle i weld pa gymorth allwn ni gynnig a cheisio cael eglurder ar yr hyn ddigwyddodd."