Banciau bwyd 'yn brysurach na'r llynedd'

  • Cyhoeddwyd
Banciau BwydFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn dweud eu bod wedi dosbarthu mwy o 'fwydydd brys' i bobl yn chwe mis cyntaf 2015/16 nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Rhwng Ebrill a Medi 2015, dosbarthodd banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell 39,245 o becynnau bwyd brys i bobl mewn argyfwng yng Nghymru, o'i gymharu â 39,168 yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Roedd 13,937 o'r pecynnau tri-diwrnod ar gyfer plant.

Yn ôl yr ymddiriedolaeth, oedi a newid gyda budd-daliadau yw'r prif achosion dros ddefnyddio banciau bwyd yng Nghymru.