Canfod corff mewn afon yng Nglyn-nedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff mewn afon yng Nglyn-nedd.
Fe gafodd Gwasanaeth Tan ac Achub y Gorllewin eu galw am 12:55 ar ôl adroddiadau fod peron yn afon Nedd yn agos i fwyty McDonald's oddi ar yr A465.
Fe ddaeth criwiau tân o Lyn-nedd, Canol Abertawe, Castell Nedd a Phontardawe i'r safle, a bu timau achub dŵr o Abertawe a Chaerfyrddin hefyd yn cynorthwyo gyda'r chwilio.
Mae ymchwiliad lawn wedi dechrau i amgylchiadau'r farwolaeth.