Ffrwydrad: Ymdrechion i symud cyrff dau weithiwr fu farw

  • Cyhoeddwyd
Celsa

Mae Heddlu'r De yn dweud y bydd yr ymdrechion yn parhau ddydd Iau i symud cyrff dau weithiwr fu farw mewn ffrwydrad yng ngwaith dur Celsa yng Nghaerdydd fore dydd Mercher.

Cafodd y gwaith ei atal dros nos.

Parhau hefyd mae'r ymchwiliad i'r hyn achosodd y ffrwydrad.

Cafodd pump o bobl eraill eu hanafu yn y ffrwydrad ddigwyddodd ar y safle yn ardal Sblott tua 10:30.

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cydymdeimlo a theuluoedd y bobl fu farw.

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd pedwar o bobl eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru

Adeilad yn ysgwyd

Cafodd y ffrwydrad ei glywed a'i deimlo gan lawer.

Dywedodd dyn busnes lleol ei fod wedi clywed "ffrwydrad mawr ac wedi gweld mwg yn codi".

"Mae 'na lawer o heddlu a sawl injan dân wedi mynd mewn i'r gwaith dur. Mae o leia' un ambiwlans yno."

'Ffrwydrad anferth'

Ychwanegodd: "Roedd yn ffrwydrad anferth, tipyn o beth. Fe ysgwydodd ein hadeilad ni - rydyn ni rhyw 100 - 200 llath o'r safle.

"Roedd 'na fwg trwchus du a llawer ohono."

Ffynhonnell y llun, Geograph/Colin Smith

Dywedodd Helen Vernon, sy'n gweithio mewn meithrinfa agos: "Es i allan a dywedodd PCSO bod ffrwydrad mawr wedi bod. Dyna i gyd oedden nhw'n gallu dweud wrtha i.

"Fe glywson ni glec uchel iawn. Dywedodd cydweithiwr, oedd yn y 'stafell staff, bod y to wedi ysgwyd."