Marwolaeth: Crwner yn feirniadol o drefn cofnodi ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd

Clywodd cwest yn Llandudno sut y bu gwraig 51 oed farw'n sydyn yn Ysbyty Glan Clwyd ar ôl gorfod gorwedd ar droli yn adran frys yr ysbyty am 14 awr.

Daeth y crwner Nicola Jones i'r casgliad fod Jacqueline Williams o Landudno, oedd yn fam i ddau o blant, wedi marw o achosion naturiol ym Mis Medi 2012.

Roedd ganddi chwyddo i'w hymennydd o ganlyniad i enseffalitis a fyddai, yn ôl niwrolegydd blaenllaw o ganolfan Walton yn Lerpwl, wedi bod yn amhosib i roi diagnosis arno.

Clywodd y crwner for Ms Williams wedi bod yn aros i gael ei throsglwyddo o'r uned ddamweiniau i ward.

Ar ôl cyrraedd am 15:38, fe gafodd ei harchwilio am y tro olaf am 04:20 y bore wedyn. Bu farw awr yn ddiweddarach ar ôl i'w chyflwr ddirywio'n sydyn.

Mewn datganiad, dywedodd nyrs - nad oedd yn gallu bod yn y cwest am ei bod yn Awstralia - fod staff wedi archwilio Ms Williams bob 90 munud yn ystod y nos, ond datgelodd y cofnodion bod yna fwlch o chwe awr rhwng archwiliadau.

'Angen gwella'r cofnodi'

Dywedodd Mrs Jones ei bod yn glir fod yr honiad i archwiliadau gael eu cynnal bob 90 munud yn anghywir. Roedd yn feirniadol o'r system o gadw cofnodion, a galwodd am gyflwyno system electronig o wneud hynny.

Yn ôl Dr Tom O'Driscoll, a ymunodd â Glan Clwyd fel ymgynghorydd meddyginiaeth frys ddwy flynedd yn ôl, roedd yr amser y bu Ms Williams yn aros ar droli yn arwydd o'r pwysau oedd ar yr adran, a byddai ef wedi teimlo'n anghyfforddus gyda'r aros.

Serch hynny, doedd e ddim yn credu y byddai cynyddu nifer yr archwiliadau wedi newid y canlyniad.

Cytunodd bod angen system gofnodi electronig a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai hynny'n dechrau fis Mawrth nesa.